Skip to main content

Premiymau Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag ac eiddo gwag wedi'i ddodrefnu'n sylweddol

Bydd eiddo gwag tymor hir ac eiddo gwag sydd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol yn Rhondda Cynon Taf yn denu premiwm Treth y Cyngor - bydd rhaid talu treth ychwanegol ar ben Treth y Cyngor arferol.

Mae bwriad i'r disgresiwn codi premiwm sydd wedi'i roi i Gynghorau gael ei ddefnyddio yn adnodd i helpu'r Cyngor ynglŷn â'r canlynol:

  • Gwella cartrefi sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir fel eu bod nhw'n addas i'w defnyddio eto er mwyn darparu cartrefi diogel, sefydlog a fforddiadwy
  • Cefnogi Cynghorau i gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.

Beth yw ystyr 'eiddo gwag tymor hir'?

Eiddo gwag tymor hir yw annedd sydd heb unrhyw un yn byw ynddo ac sydd wedi bod heb ddodrefn ers cyfnod parhaus o flwyddyn neu ragor.

Os yw unigolyn yn symud i mewn i'r eiddo neu'n rhoi dodrefn ynddo am un cyfnod neu ragor hyd at 6 wythnos yn ystod y flwyddyn, fydd hyn ddim yn effeithio ar statws yr eiddo gwag hir dymor. Hynny yw, fydd unigolyn ddim yn newid statws yr eiddo ('gwag hir dymor') drwy symud i mewn iddo neu roi dodrefn ynddo am gyfnod byr.

Pan mae Cyngor yn penderfynu gosod premiwm ar eiddo gwag tymor hir, mae'n bosibl y bydd yn nodi canrannau amrywiol ar gyfer eiddo gwahanol yn seiliedig ar hyd y cyfnod maen nhw wedi bod yn wag. Mae hyn yn golygu bod modd i gynghorau lleol roi'r drefn ar waith mewn camau graddol.

Eiddo gwag wedi'i ddodrefnu'n sylweddol (cyfeirir ato weithiau fel "Ail Gartrefi")

Diffinnir eiddo gwag wedi'i ddodrefnu'n sylweddol fel annedd nad yw'n unig neu'n brif gartref i berson ac sydd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol. Cyfeirir at yr anheddau yma yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 fel “anheddau a feddiennir yn gyfnodol” ond cyfeirir atyn nhw'n gyffredin fel 'ail gartrefi'.

Oes unrhyw eithriadau i'r premiwm?

Isod mae rhestr o eithriadau i'r premiwm:

  • Dosbarth 1 - anheddau sydd ar y farchnad i gael eu gwerthu neu sydd â chynnig wedi'i dderbyn (mae'r eithriad yma wedi'i gyfyngu i 1 flwyddyn, rhagor o fanylion isod)
  • Dosbarth 2 - anheddau sydd ar y farchnad i gael eu rhentu neu sydd â chynnig i rentu sydd wedi cael ei dderbyn (mae'r eithriad yma wedi'i gyfyngu i 1 flwyddyn, rhagor o fanylion isod)
  • Dosbarth 3 – rhandai sy'n ffurfio rhan, neu'n cael eu trin fel rhan, o'r brif annedd
  • Dosbarth 4 – anheddau a fyddai'n unig gartref neu'n brif gartref person pe na bai ef/hi yn byw mewn llety sy'n cael ei ddarparu gan y lluoedd arfog
  • Dosbarth 5 – safleoedd carafanau ac angorfeydd cychod sydd wedi eu meddiannu (ail gartrefi yn unig)
  • Dosbarth 6 - anheddau sy'n wag oherwydd bod amod cynllunio yn atal pobl rhag eu meddiannu'n barhaol neu gydol y flwyddyn, neu'n nodi bod yr eiddo i'w ddefnyddio yn llety gwyliau yn unig neu'n atal yr annedd rhag cael ei ddefnyddio yn brif breswylfa (ail gartrefi'n unig)
  • Dosbarth 7 - anheddau sy'n ymwneud â swyddi (ail gartrefi'n unig) - gweler rhagor o fanylion isod

Dosbarth 1: anheddau sydd ar werth

Mae'r eithriad yma'n berthnasol i'r premiwm ar eiddo gwag tymor hir ac eiddo gwag wedi'i ddodrefnu'n sylweddol ("ail gartrefi"). Dydy hyn ddim yn cynnwys anheddau sy'n cael eu marchnata i gael eu gwerthu. Mae hefyd yn berthnasol i anheddau sydd â chynnig wedi'i dderbyn ond lle nad yw'r gwerthiant wedi'i gwblhau hyd yn hyn.

I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad yma rhaid i eiddo fod ar werth am bris rhesymol. Bydd raid bod gan y perchennog atebol y gallu i ddangos i'r Awdurdod Lleol yn foddhaol ei fod yn marchnata'r eiddo am bris rhesymol sef pris y byddai disgwyl iddo werthu amdano ar y farchnad agored.

Wrth ystyried a yw eiddo yn gymwys i fod yn eithriad, mae'n bosibl y bydd y Cyngor yn dymuno ystyried ystod o ffactorau sy'n ymwneud â gwerthu eiddo, megis:

  • ers pryd mae eiddo yn yr ardal wedi bod ar werth
  • pris cyfartalog a'r hyd mae anheddau tebyg ar y farchnad yn yr ardal leol
  • a oes amodau cyfyngol gormodol, megis y pris, wedi'u gosod ar yr eiddo er mwyn atal ei werthu
  • unrhyw ffactorau rhesymol eraill

I benderfynu a yw eiddo ar y farchnad i gael ei werthu neu beidio, efallai bydd y Cyngor yn dymuno ystyried y mathau amrywiol o dystiolaeth a allai gynnwys y canlynol:

  • Eiddo yn cael ei restru ar wefannau hysbysebu, er enghraifft gwefannau gwerthwyr tai megis Rightmove a Zoopla, neu dystiolaeth o ffyrdd eraill mae'r eiddo yn cael ei farchnata
  • cytundeb gyda gwerthwr tai
  • rhestrau gwerthwyr/asiantau tai neu fanylion gwerthiant os yw'n cael ei werthu'n breifat
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni (pan gaiff eiddo ei adeiladu neu ei werthu)

Mae'r cyfnod eithrio yn para hyd at flwyddyn o'r dyddiad y caiff eithriad ei warantu ond mae modd ei ymestyn pe bydd pob parti perthnasol yn cytuno ar werthiant sydd ddim yn cael ei gwblhau o fewn blwyddyn o ddechrau'r cyfnod eithrio. Byddai'r eithriad yma'n dod i ben ar ddyddiad gwerthiant yr eiddo. Ar ôl i eithriad ddod i ben, fydd eiddo sy'n cael ei farchnata i'w werthu ddim yn gymwys i gael cyfnod eithrio pellach heblaw ei fod wedi cael ei werthu.

Dosbarth 2:

Mae'r eithriad yma'n berthnasol i'r premiwm ar eiddo gwag tymor hir ac eiddo gwag wedi'i ddodrefnu'n sylweddol ("ail gartrefi"). Dydy hyn ddim yn cynnwys anheddau sy'n cael eu marchnata i gael eu rhentu. Mae'n berthnasol i anheddau sydd â chynnig i rentu wedi'i dderbyn ond dydy'r tenant ddim yn gymwys i fyw yno gan nad yw'r denantiaeth wedi dechrau.

I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad yma, rhaid i berchennog atebol brofi i'r Cyngor ei fod yn marchnata'r eiddo am bris rhesymol e.e. y rhent y byddai disgwyl i rywun ei dalu am yr eiddo yn seiliedig ar gost eiddo tebyg.

Wrth ystyried a yw eithriad yn berthnasol, efallai y bydd Cyngor yn dymuno ystyried ystod o ffactorau sy'n ymwneud â rhoi eiddo ar osod, megis y canlynol:

  • ers pryd mae eiddo yn yr ardal wedi bod ar werth
  • y rhent cyfartalog a'r amser ar y farchnad ar gyfer eiddo rhent tebyg yn yr ardal leol
  • a oes amodau cyfyngol gormodol, megis y pris, wedi'u gosod ar yr eiddo er mwyn atal ei rentu
  • unrhyw ffactorau rhesymol eraill

Er mwyn i Gyngor benderfynu a yw perchennog atebol yn mynd ati’n weithredol neu’n wirioneddol i farchnata ei eiddo i’w rentu, efallai y bydd awdurdod lleol am ystyried gwahanol fathau o dystiolaeth a allai gynnwys y canlynol:

  • contract gydag asiantaeth gosod tai
  • rhestrau gwerthwyr tai neu lyfrynnau asiant gosod tai
  • cofrestru a thrwyddedu landlord ac asiant ar gyfer annedd sy’n cael ei marchnata i’w rhentu, drwy Rhentu Doeth Cymru 
  • rhestrau tai o eiddo sy'n cael eu cynnig ar rent a ddarperir gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  • Tystysgrif Perfformiad Ynni (pan gaiff eiddo ei adeiladu neu ei rentu)
  • mae angen tystysgrif diogelwch nwy dilys ar gyfer cartrefi sy'n cael eu rhentu.

Mae'r cyfnod eithrio yn rhedeg am hyd at flwyddyn o ganiatáu'r eithriad. Ar ôl diwedd y cyfnod eithrio, ni fydd annedd sy’n cael ei marchnata i’w rhentu yn gymwys am gyfnod eithrio pellach oni bai ei fod wedi bod yn destun tenantiaeth am gyfnod o 6 mis neu ragor.

Dosbarth 7 – Eiddo sy'n gysylltiedig â swyddi

Mae’r eithriad yma'n gymwys mewn perthynas â’r premiwm eiddo gwag wedi’i ddodrefnu’n sylweddol (“ail gartrefi”) yn unig ac mae’n berthnasol i anheddau a feddiennir gan berson cymwys. Mae’r meini prawf ar gyfer person cymwys wedi’u nodi o dan Ddosbarth 7 yn Rhan 1.

Wrth ystyried cymhwysedd ar gyfer yr eithriad yma, efallai y bydd Cyngor yn dymuno gwneud cais am fathau penodol o dystiolaeth i brofi bod angen person atebol mewn eiddo sy'n gysylltiedig â swyddi. Dylai gynnwys y canlynol:

  • Cytundeb Cyflogaeth
  • hysbysiad hawlio Treth y Cyngor (i ddangos atebolrwydd mewn perthynas ag eiddo arall os yw’r prif gartref neu’r ail gartref yn y DU)
  • ffurflenni treth neu gyfriflenni cyflog
  • Llythyr Enwadol (mewn perthynas â Gweinidog Crefydd)
  • Llythyr y Weinyddiaeth Amddiffyn neu gontract ysgrifenedig (mewn perthynas â’r Lluoedd Arfog)

Os ydych chi o'r farn eich bod chi'n gymwys i gael eich eithrio, gwneud cais

Beth os nad yw fy eiddo yn gymwys ar gyfer eithriad?

Byddwch chi'n destun premiwm 100% ar Dreth y Cyngor os yw eich eiddo wedi bod yn wag ers rhwng 1 a 3 mlynedd a phremiwm o 200% os yw eich eiddo wedi bod yn wag ers dros 3 mlynedd. Bydd y rheolau yma'n dod i rym ar 1 Ebrill 2025.

O 1 Ebrill 2024 ymlaen bydd pob eiddo gwag wedi'i ddodrefnu'n sylweddol ("ail gartrefi") yn destun premiwm o 100% ar Dreth y Cyngor.

Pe hoffech chi weithio gyda'r Cyngor er mwyn dechrau ailddefnyddio eich eiddo, bwriwch olwg ar ein gwefan: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/Housing/PrivateRentedHousing/Emptyproperties.aspx..

Premiymau Treth y Cyngor ar gyfer Eiddo Gwag ac Eiddo Gwag wedi'u Dodrefnu'n Sylweddol yn Rhondda Cynon Taf

Cyflwynodd Rhondda Cynon Taf bremiwm Treth y Cyngor ar gyfer eiddo Gwag Tymor Hir (LTE) ar 1 Ebrill 2023. At ddibenion y premiwm, mae eiddo Gwag Tymor Hir yn eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ddodrefn ers 12 mis neu ragor.

Ar 1 Ebrill 2023, roedd 1,665 Eiddo o'r fath. Codwyd premiwm o naill ai 50% (os oedden nhw'n wag rhwng 12 a 24 mis) neu 100% (os oedden nhw'n wag am fwy na 24 mis) ar bob un o'r rhain.

Erbyn 31Mawrth 2024, roedd 1,427 Eiddo Gwag Tymor Hir yr oedd premiwm yn cael ei godi arnyn nhw. Dyma ostyngiad o 238 eiddo.

Ar 1Ebrill 2023, roedd 491 eiddo gwag/wedi'u dodrefnu ac erbyn 31Mawrth 2024 roedd y nifer yma wedi cynyddu i 647. Codwyd premiwm o 100% ar bob eiddo gwag/wedi'u dodrefnu yn ystod 2024/25.

Amcangyfrifir am y flwyddyn ariannol 1Ebrill 2023 i 31Mawrth 2024,  y bydd incwm ychwanegol gwerth £1.5 miliwn yn cael ei gasglu o bremiymau ar Eiddo Gwag Tymor Hir.

Sut mae'r Cyngor wedi defnyddio'r incwm ychwanegol a godwyd gan y premiymau ar Dreth y Cyngor?

Bwriedir i’r disgresiwn a roddir i Rondda Cynon Taf godi premiwm gael ei ddefnyddio yn rhan o strategaeth Cartrefi Gwag ehangach i gefnogi’r Cyngor i:

  • a) Gwella cartrefi sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir fel eu bod nhw'n addas i'w defnyddio eto er mwyn darparu cartrefi diogel, sefydlog a fforddiadwy; a
  • b) Cynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.   

Roedd yr incwm ychwanegol a godwyd gan bremiymau Treth y Cyngor yn cefnogi creu Grant Tai Gwag RhCT, gan roi grantiau o hyd at £25,000 i berchnogion tai a darpar berchnogion tai i adnewyddu eiddo gwag, gan eu gwneud nhw'n ddiogel i fyw ynddyn nhw a gwella eu heffeithlonrwydd ynni. 

Cydnabuwyd Grant Cartrefi Gwag RhCT fel arfer da gan Lywodraeth Cymru. Arweiniodd hyn at roi Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd ar waith. Nawr mae'r Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol wedi cael ei roi ar waith, mae RhCT yn ei arwain a’i reoli.

O 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024,  dychwelwyd 227 o anheddau sector preifat a oedd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis yn ôl i ddefnydd. Mae hyn yn cynrychioli 8.4% o gyfanswm nifer yr eiddo gwag y dechreuwyd eu defnyddio eto. Cynhaliodd y Cyngor hefyd 627 o ymyriadau wedi'u hanelu at ddod ag eiddo gwag tymor hir yn ôl i'w defnyddio.

Cwestiynau Cyffredin

Rwy'n berchen ar eiddo gwag. Sut bydda i'n cael gwybod fy mod i'n atebol i dalu'r premiwm a pha mor hir ymlaen llaw bydda i'n cael gwybod?

Bydd pob perchennog eiddo gwag yn derbyn taflen wybodaeth gyda'u llythyrau Treth y Cyngor am bolisi premiwm y Cyngor cyn i unrhyw bremiwm fod yn berthnasol.

Unwaith y bydd yr eiddo yn dod yn destun premiwm, bydd perchnogion eiddo yn derbyn bil Treth y Cyngor a fydd yn dangos gwerth y premiwm sydd i'w dalu.

Rydw i'n berchennog eiddo gwag sydd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol. Sut bydda i'n cael gwybod fy mod i'n atebol i dalu'r premiwm a pha mor hir ymlaen llaw bydda i'n cael gwybod?

Bydd pob perchennog eiddo gwag wedi'i ddodrefnu yn derbyn bil Treth y Cyngor sy'n dangos lefel y premiwm i'w dalu. Yn gyffredinol, ni fydd unrhyw gyfnod rhybudd diffiniedig ar gyfer hyn. Os ydych chi'n derbyn bil ac yn meddwl na ddylai eich eiddo gael ei ddosbarthu fel eiddo gwag sydd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol, cysylltwch â ni.

Rydw i'n berchennog eiddo wedi'i ddodrefnu a oedd yn cael ei feddiannu gan aelod o'r teulu a fu farw'n ddiweddar. Pam y gofynnwyd i mi dalu'r premiwm?

Os daw eiddo’n wag oherwydd bod perchennog yr eiddo wedi marw, yna bydd yr eiddo wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor ac ni fydd yn denu premiwm.

Serch hynny, os nad y sawl sydd wedi marw oedd perchennog yr eiddo, yna bydd Treth y Cyngor yn cael ei throsglwyddo i berchennog yr eiddo a bydd Treth y Cyngor a’r premiwm yn daladwy ar unwaith tra bod yr eiddo’n wag ac wedi’i ddodrefnu’n sylweddol.

Mae hyn yn digwydd yn aml pan fo perchnogaeth yr eiddo wedi'i throsglwyddo i aelod arall o'r teulu

Adroddiad y Cyngor - dilynwch y ddolen yma i weld adroddiad y Cyngor