Skip to main content

Gostyngiad yn nhreth y Cyngor ar gyfer pobl sydd ar incwm isel neu sy'n ddi-waith

Dyma'r drefn

Os ydych ar incwm isel, neu'n ddi-waith, efallai y bydd modd i chi gael Gostyngiad yn nhreth y Cyngor.

Mae gostyngiad yn nhreth y Cyngor yn cael ei roi ar sail incwm eich aelwyd, eich cynilion, ac unrhyw asedau sydd gyda chi.

Cael gostyngiad yn nhreth y Cyngor a chredyd cynhwysol

Os yw credyd cynhwysol yn cael ei ddyfarnu i chi, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn asesu eich cyllidon ac yn gofyn am eich caniatâd i rannu eich gwybodaeth gyda'r Cyngor. 

Os byddwn ni'n dyfarnu Gostyngiad yn nhreth y Cyngor i chi, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi gwybod i ni am unrhyw fudd-daliadau a hawliadau yr ydych chi'n eu cael ganddyn nhw. Mae'n bosibl y byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth i newid swm y gostyngiad yn nhreth y Cyngor y byddwch chi'n ei gael bob mis.

Hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi rhoi hawl i'r Adran Gwaith a Phensiynau rannu eich gwybodaeth gyda ni, bydd gofyn i chi wneud cais gyda ni o hyd am ostyngiad yn nhreth y Cyngor.

Ar gyfer pwy y mae (cymhwysedd)

Rydych chi'n gymwys i gael gostyngiad yn nhreth y Cyngor os:

  • rydych chi'n talu treth y Cyngor yn yr eiddo rydych chi'n byw ynddo
  • rydych chi'n ddi-waith neu ar incwm isel
  • yw eich cynilion neu fuddsoddiadau chi, eich partner, neu'r ddau ohonoch yn llai na £16,000

Cyflwyno cais

Cyn i chi ddechrau

Does dim angen rhif cyfrif treth y Cyngor arnoch chi i wneud cais, serch hynny, mae'n bosibl y bydd eich cais yn cael ei phrosesu'n gyflymach o gael y rhif yma.

Bydd raid i chi barhau i dalu eich bil Treth y Cyngor tra bod canlyniad eich cais yn cael ei benderfynu.

Wedi i chi wneud cais

Wedi i chi wneud cais, fe gysylltwn ni gyda chi a chwblhau asesiad ar eich cyllidon. Byddwn ni'n gofyn i chi am dystiolaeth ynghylch incwm a chynilion eich aelwyd, ac unrhyw asedau sydd gyda chi.

Gwneud cais am Ostyngiad yn nhreth y Cyngor

Cymorth wrth wneud cais

Os oes arnoch chi angen cymorth ac y byddech chi'n cael budd o gymorth wyneb yn wyneb, mae modd i chi drefnu apwyntiad IBobUn. Mae modd i chi gyfarfod mewn llyfrgell RhCT gydag aelod o'r garfan; bydd yn rhoi cymorth i chi wrth gwblhau eich cais a’i gyflwyno.

Trefnu apwyntiad

Ôl-ddyddio eich cais

Os ydych chi o'r farn y dylai'ch gostyngiad yn nhreth y Cyngor fod wedi dechrau ar ddyddiad cynharach, bydd angen i chi anfon e-bost atom ni a gwneud cais i'ch hawliad gael eich ôl-ddyddio, a bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth briodol i atgyfnerthu eich cais.

Mae modd i'r canlynol fod ymhlith y dystiolaeth:

  • Tystiolaeth feddygol - er enghraifft nodiadau meddyg, tystysgrifau marwolaeth, llythyrau derbyn neu ryddhau o'r ysbyty
  • Datganiadau tystion - er enghraifft llythyron gan weithwyr cymdeithasol, cyfreithwyr neu'r heddlu
  • Llythyron neu e-byst o ffynhonnell swyddogol sy'n rhoi gwybod i chi eich bod chi heb fod yn gymwys i gael cymorth - er enghraifft y Swyddfa Cyngor ar Bopeth, gweithiwr cymdeithasol neu'r Adran Gwaith a Phensiynau

Rydyn ni'n gallu ôl-ddyddio Gostyngiad Treth y Cyngor hyd at 6 mis yn unig.

Byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi gyda'r penderfyniad rydyn ni wedi'i wneud ar sail y dystiolaeth rydych chi wedi'i chyflwyno.

Os yw'ch hawliad heb fod yn llwyddiannus, byddwn ni'n esbonio'r rhesymau dros hynny ac yn rhoi gwybod i chi lle cewch chi ragor o gyngor. Mae gyda chi'r hawl i apelio'n erbyn ein penderfyniad. Bydd trefn y broses apelio'n cael ei hesbonio yn y llythyr fydd yn eich cyrraedd.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os bydd newid yn eich amgylchiadau gan y byddai modd i hyn effeithio ar eich hawl i gael gostyngiad. 

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Cysylltwch â ni

E-bost: refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425002