Skip to main content

Rhyddhad treth y Cyngor yn ôl disgresiwn mewn amgylchiadau eithriadol

Dyma'r drefn

Mae Rhyddhad Treth y Cyngor yn Ôl Disgresiwn (mae rhyddhad adran 13a Treth y Cyngor hefyd yn cael ei ddefnyddio arno) yn rhyddhad Treth y Cyngor tymor byr ar gyfer pobl sy'n wynebu sefyllfa eithriadol o ran caledi ariannol.

Cynllun yn ôl disgresiwn yw hwn, felly dyw cael dyfarniad ddim yn cael ei warantu. Byddwn ni'n edrych ar eich cais a’i gryfderau ac yn gwneud penderfyniad ynghylch gostwng eich bil ar sail hynny.

Y nod o ran y cynllun yw:

  • atal digartrefedd
  • cadw aelodau teulu gyda'i gilydd
  • bod yn gefn i breswylwyr sy'n agored i niwed
  • bod yn gefn i'r sawl sy'n methu gweithio yn sgil anabledd
  • rhoi cymorth i gwsmeriaid sy'n profi argyfwng personol a digwyddiadau anodd

Swm y rhyddhad

Mae swm y rhyddhad yn cael ei seilio ar eich amgylchiadau unigol chi.

Mae'n bosibl y bydd y Cyngor yn gostwng eich Treth y Cyngor gan unrhyw swm, gan gynnwys ei ostwng i sero.

Am ba mor hir y bydd y rhyddhad yn para

Cymorth dros dro yw hwn a dyw ddim wedi'i fwriadu at ddibenion cymorth talu mewn sefyllfa o golli taliadau Treth y Cyngor yn hir dymor.

Fel arfer rydyn ni'n dyfarnu rhyddhad ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol gyfredol. Rhaid i chi ailgyflwyno cais os oes arnoch chi angen cymorth o hyd

Ar gyfer pwy y mae (Cymhwysedd)

Mae modd i chi wneud cais os ydych chi'n talu Treth y Cyngor i Gyngor Rhondda Cynon Taf am eiddo rydych chi'n byw ynddo.

Mae modd i chi wneud cais swyddogol ar ran rhywun arall os ydych chi'n benodai neu'n rhywun sydd ag atwrneaeth ar gyfer y person hwnnw.

Does dim modd i chi wneud cais am ryddhad am:

  • eiddo sy'n cael ei rentu rydych chi'n berchen arno ond heb fod yn byw ynddo – er enghraifft os ydych chi'n landlord neu'n asiant tai.
  • eiddo gwag rydych chi'n berchen arno

Er mwyn cael eich ystyried bydd raid i chi:

  • cael tystiolaeth o galedi ariannol neu amgylchiadau eithriadol
  • bod wedi gwneud cais am Ostyngiad yn Nhreth y Cyngor os ydych chi'n gymwys
  • bod wedi cael pob disgownt a gostyngiad arall yn nhreth y Cyngor mae gyda chi'r hawl i'w gaelbod wedi cymryd camau rhesymol i wella'ch sefyllfa
  • bod wedi bod yn cael bob incwm mae gyda chi hawl iddo o ran budd-daliadau'r wladwriaeth
  • bod mewn sefyllfa lle does dim modd i chi gael gafael ar unrhyw arian nag asedau eraill at ddibenion talu eich Treth y Cyngor

Cyflwyno cais

Cyn i chi ddechrau

Dylech chi fwrw golwg manwl ar eich gwariant a lleihau unrhyw wario di-angen.

Dylai'r canlynol fod yn rhan o'ch cais:

  • Eich gwybodaeth bersonol – enw, cyfeiriad, dyddiad geni
  • Gwybodaeth ynghylch y bobl eraill sy'n byw ar eich aelwyd
  • Incwm yr aelwyd –  er enghraifft, cyflog neu dâl pawb sy'n byw yn y cartref
  • Gwariant yr aelwyd – er enghraifft, biliau a morgais
  • Esboniad o'r hyn sydd wedi achosi eich sefyllfa a phrif ddyddiadau
  • Yr hyn sydd wedi digwydd ers i'ch sefyllfa ddechrau
  • Manylion ynghylch unrhyw gymorth yr ydych chi wedi gwneud cais amdano a'i wrthod

E-bostiwch refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk i wneud cais am ryddhad o ran treth y Cyngor.

Wedi i chi gyflwyno cais

Os oes camau eraill y byddai modd i chi eu cymryd er mwyn gwella eich sefyllfa ariannol, byddwn ni'n rhoi cyngor ac arweiniad pellach i chi ar sut mae ei gwella.

Os byddwn ni'n penderfynu parhau â'ch cais, byddwn yn gofyn i chi:

  • cwblhau asesiad ariannol
  • cyflwyno tystiolaeth sy'n atgyfnerthu eich cais

Mae'r Cyngor yn rhoi ystyriaeth deg a chyson i bob cais, ar sail eich sefyllfa bersonol ac ariannol a sefyllfa eich aelwyd.

Byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi i roi gwybod i chi am y canlyniad, fel arfer o fewn 14 diwrnod o gael yr wybodaeth rydyn ni ei hangen gennych chi.

Os bydd eich cais yn cael ei wrthod, bydd modd i chi ofyn i'r penderfyniad gael ei adolygu o fewn mis i'r penderfyniad.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Rhaid i chi roi gwybod i'r Cyngor ynghylch unrhyw newidiadau y byddai modd iddyn nhw gael effaith ar eich dyfarniad.

Mae newidiadau i’r canlynol yn rhan o hyn:

  • eich incwm
  • eich aelwyd
  • eich sefyllfa ariannol

Os bydd eich sefyllfa yn newid, mae'n bosibl y bydd eich dyfarniad yn cael ei adolygu.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau