Mae nifer o sefyllfaoedd lle bydd eiddo’n cael ei eithrio rhag taliadau Treth y Cyngor.
Dyma'r drefn
Mae rhai adeiladau'n cael eu heithrio rhag taliadau Treth y Cyngor. Felly, fydd ffi ddim yn cael ei godi ar y person sydd fel arfer yn atebol am dalu treth y Cyngor.
Os ydych chi'n berchen ar eiddo neu'n byw ynddo, a'i fod yn bodloni'r gofynion o ran eithriad, bydd raid i chi wneud cais o hyd am eithriad er mwyn ei gael. Dyw eithriadau ddim yn cael eu rhoi ar waith yn awtomatig.
Eithriadau ar gyfer eiddo sydd heb unrhyw un yn byw ynddo
Os yw'ch eiddo'n un sydd heb unrhyw un yn byw ynddo ar sail unrhyw un o'r rhesymau isod, mae'n bosibl y bydd yn cael ei eithrio rhag taliadau treth y Cyngor.
- yn dangos bod angen gwaith atgyweirio mawr arno neu mae gwaith atgyweirio mawr/newid strwythurol yn digwydd yno (mae modd cael eithriad am gyfnod hyd at flwyddyn neu am gyfnod o chwe mis hyd at ddyddiad gorffen y gwaith, p'un bynnag ddaw gyntaf)
- dan berchnogaeth elusen (eithriad am hyd at 6 mis yn unig)
- yn eiddo i fyfyriwr, ac wedi'i feddiannu ddiwethaf gan y myfyriwr hwnnw
- heb ei ddodrefnu (eithriad a ganiateir hyd at 6 mis yn unig)
- mae sefyllfa o gyfnod aros am brofiant neu lythyrau gweinyddu yn berthnasol (eithriad am hyd at 6 mis ar ôl eu caniatáu)
- mae'r meddiannydd yn y ddalfa
- mae'r meddiannydd wedi symud i dderbyn gofal personol mewn ysbyty, cartref gofal neu rywle arall
- mae'r meddiannydd wedi symud allan er mwyn rhoi gofal personol i berson arall
- yn aros i gael ei feddiannu gan weinidog crefydd
- mae meddiannu'r eiddo wedi'i wahardd dan y gyfraith
- wedi'i adfeddiannu
- yn gyfrifoldeb ymddiriedolwr ar ran methdalwr.
- yn safle ar gyfer carafán, cartref symudol unigol, neu angorfa.
- yn anodd ei roi ar osod oherwydd ei fod yn rhan o eiddo arall, neu ar dir eiddo arall, a does dim modd ei roi ar osod ar wahân i'r eiddo arall heb dorri caniatâd cynllunio (rhaid bod y person atebol yn byw yn yr eiddo er mwyn bod yn gymwys)
Eithriadau ar gyfer eiddo sydd wedi'i feddiannu
Os yw'ch eiddo wedi'i feddiannu, mae'n bosibl y bydd wedi'i eithrio rhag taliadau treth y Cyngor os yw'n bodloni unrhyw un o'r anghenion canlynol:
- mae'n llety ar gyfer aelod o’r lluoedd arfog neu ar gyfer y sawl sy'n briod â pherson sydd yn y lluoedd arfog (bydd meddianwyr yn hytrach yn cyfrannu at gost y gwasanaethau lleol drwy drefniant arbennig)
- mae ynghlwm wrth gartref teuluol ac sydd wedi'i feddiannu gan berson oedrannus neu anabl sy'n perthyn i'r teulu hwnnw.
- mae'r meddiannydd yn aelod o lu arfog sy'n ymweld
- mae'r meddiannydd yn ddiplomydd tramor
- mae pob meddiannydd yn fyfyriwr
- mae pob meddiannydd yn 18 oed neu’n iau
- mae gyda phob meddiannydd amhariad gwybyddol difrifol
Cyflwyno cais
Cyn i chi ddechrau
Bydd arnoch chi angen eich rhif treth y Cyngor er mwyn gwneud cais.
Wedi i chi wneud cais
Wedi i chi wneud cais, byddwn ni'n ymweld â'ch eiddo i wirio ei fod yn bodloni'r gofynion o ran eithriad. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd o fewn 3 mis o wneud cais.
Mae'n rhaid i chi barhau i dalu eich bil Treth y Cyngor tra bod canlyniad eich cais yn cael ei benderfynu. Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, bydd eich gostyngiad yn cael ei ôl-ddyddio ar sail y dyddiad y cafodd eich eiddo ei newid.
Gwneud cais am Eithriad ar gyfer Eiddo
Cymorth wrth wneud cais
Os oes arnoch chi angen cymorth wrth wneud cais ac y byddech chi'n cael budd yn sgil cymorth wyneb yn wyneb, mae modd i chi drefnu apwyntiad IBobUn. Bydd modd i chi gyfarfod mewn llyfrgell RhCT ag aelod o'r garfan; bydd yn rhoi cymorth i chi wrth gwblhau eich cais a'i gyflwyno.
Trefnu apwyntiad
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich sefyllfa'n newid gan y byddai modd i hyn effeithio ar eich hawl i ddisgownt.
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau