Dyma'r drefn
Os oes gyda chi neu berson yn eich eiddo amhariad gwybyddol sylweddol, mae modd i chi wneud cais am ddisgownt neu eithriad o ran treth y Cyngor.
Mae eich disgownt neu eithriad wedi'i seilio ar y sawl rydych chi'n byw gyda nhw.
Os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun, neu gyda phobl eraill sydd ag amhariad gwybyddol sylweddol, a neb arall, fe fyddwch chi'n cael eich eithrio rhag talu Treth y Cyngor.
Os ydych chi'n byw gydag un oedolyn sy'n talu treth y Cyngor, bydd eich aelwyd yn cael disgownt o 25%.
Does dim modd i chi gael disgownt nag eithriad os rydych chi'n byw gyda 2 oedolyn neu ragor sy'n talu treth y Cyngor.
Ar gyfer pwy y mae (cymhwysedd)?
Rydych chi'n gymwys os oes gyda chi ddiagnosis o Amhariad Gwybyddol Sylweddol a budd-dal sy'n eich gwneud yn gymwys.
Diagnosis o Amhariad Gwybyddol Sylweddol
Mae gyda pherson amhariad gwybyddol sylweddol os oes gydag ef gyflwr parhaol sy'n effeithio ar allu ei ymennydd i weithredu a'i fod yn cael effaith sylweddol ar ei fywyd dyddiol. Ymhlith cyflyrau y mae modd iddyn nhw arwain at amhariad gwybyddol sylweddol mae:
- Alzheimers
- Clefyd Parkinson's
- Anableddau Dysgu Dwys
- Strôc
Rhaid i'r person fod wedi cael diagnosis gan feddyg o amhariad gwybyddol sylweddol.
Budd-daliadau Cymwys
Yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans Gweini
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Lwfans Byw ar gyfer Pobl Anabl (elfen gofal cyfradd uwch neu ganolig)
- Cynnydd yn y pensiwn anabledd (gan fod angen presenoldeb cyson)
- Lwfans Gweithio i Bobl Anabl
- Cymhorthdal Incwm sydd â phremiwm anabledd yn rhan ohono
- Lwfans Diweithdra
- Lwfans Gweini Cyson
- Taliad Annibyniaeth Personol (cyfradd safonol neu gyfradd uwch yr elfen byw bob dydd)
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Credyd Cynhwysol (lle mae gyda pherson allu cyfyngedig i weithio)
Cyflwyno cais
I wneud cais, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Lawrlwythwch ac argraffwch y Ffurflen disgownt neu ostyngiad amhariad gwybyddol sylweddol.
neu
Ffoniwch y ganolfan gyswllt ar 01443 425002 i drefnu cael cais yn y post.
- Cwblhewch y rhannau perthnasol yn y ffurflen, a'i llofnodi.
- Ewch â'r ffurflen at feddyg neu ymarferydd meddygol; bydd gofyn iddo gwblhau rhan C y ffurflen. Ddylai meddygon teulu ddim codi ffi am gwblhau'r ffurflen – mae hyn wedi'i nodi yn Rheoliadau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2004.
- Anfonwch y ffurflen wedi'i llenwi atom ni:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Oldway
Y Porth
CF39 9ST
Neu ei dychwelyd atom ni wyneb yn wyneb neu drefnu apwyntiad IBobUn.
You must continue to pay your current Council Tax bill while the outcome of your application is decided.
Cymorth wrth wneud cais
Os oes arnoch chi angen cymorth wrth wneud cais ac y byddech chi'n cael budd o gymorth wyneb yn wyneb, mae modd i chi drefnu apwyntiad IBobUn. Bydd modd i chi gyfarfod mewn llyfrgell RhCT ag aelod o'r garfan; bydd yn rhoi cymorth i chi gwblhau eich cais a'i gyflwyno.
Trefnu apwyntiad
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich sefyllfa'n newid gan y byddai modd i hyn effeithio ar eich hawl i ddisgwont neu eithriad.
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Cysylltwch â ni
E-bost: refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425002