Dyma'r drefn
Os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn sy'n byw ar eich pen eich hun neu gyda myfyrwyr amser llawn eraill, a neb arall cewch chi eich eithrio rhag taliadau Treth y Cyngor.
Os ydych chi'n byw mewn llety preifat, er enghraifft rydych chi'n rhentu tŷ sy'n cael ei rannu, rhaid i chi wneud cais am eich eithriad.
Os ydych chi'n byw mewn neuadd breswyl ar gyfer myfyrwyr, rydych chi'n cael eich eithrio'n ddiofyn rhag talu Treth y Cyngor, a does dim rhaid i chi wneud cais.
Os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn ac yn byw gyda rhywun arall y mae rhaid iddyn nhw dalu treth y Cyngor, mae'n bosibl y bydd gwneud cais am eithriad i fyfyrwyr yn rhoi hawl i'r person hwnnw gael disgownt person sengl.
Ar gyfer pwy y mae (cymhwysedd)
Rydych chi'n gymwys i gael disgownt neu eithriad os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn ar gwrs sydd:
- yn para o leiaf 1 flwyddyn galendr neu academaidd am o leiaf 24 wythnos o'r flwyddyn
- y mae 21 awr o astudio, tiwtora neu brofiad gwaith, fel arfer, yn rhan ohono bob wythnos yn ystod y tymor.
Cyflwyno cais
Cyn i chi ddechrau
Bydd arnoch chi angen prawf eich bod yn astudio. Rhaid i'r prawf yma fod yn dystysgrif cofrestru neu dystysgrif myfyriwr y mae eich prifysgol neu goleg wedi'i gyflwyno.
Mae rhaid i chi barhau i dalu eich bil Treth y Cyngor tra bod canlyniad eich cais yn cael ei benderfynu.
Gwneud cais am eithriad i fyfyrwyr
Cymorth wrth wneud cais
Os oes arnoch chi angen cymorth wrth wneud cais, ac y byddai cymorth wyneb yn wyneb o fudd i chi, mae modd i chi drefnu apwyntiad IBobUn. Mae modd i chi gyfarfod mewn llyfrgell RhCT ag aelod o'r garfan; bydd yn rhoi cymorth i chi gwblhau eich cais a'i gyflwyno.
Trefnu apwyntiad
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich amgylchiadau'n newid gan y byddai modd i hyn effeithio ar eich hawl i ddisgownt neu ostyngiad.
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Cysylltwch â ni
E-bost: refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425002