Dyma'r drefn
Os oes person sydd ag anabledd parhaol yn byw yn eich eiddo, ac mai'r eiddo hwnnw yw prif gartref y person dan sylw, a bod newidiadau wedi'u gwneud er diwallu ei anghenion, bydd modd i'ch bil treth y Cyngor gael ei ostwng i fand is.
Bydd eich bil treth y Cyngor yn cael ei ostwng i'r band nesaf i lawr a bydd y ffi ar y gyfradd is yn cael ei chodi arnoch chi. Er enghraifft, bydd ffi eiddo band C yn cael ei godi ar eiddo band D. Mae modd i filiau eiddo band A gael eu gostwng yn is hefyd.
Ar gyfer pwy y mae (cymhwysedd)
Rydych chi'n gymwys i gael gostyngiad os oes person sydd ag anabledd parhaol yn byw yn eich eiddo, ac mai'r eiddo hwnnw yw prif gartref y person dan sylw, a bod newidiadau penodol wedi'u gwneud er diwallu ei anghenion.
Rhaid i'r eiddo fod wedi cael ei newid mewn un o'r ffyrdd canlynol:
- mae ystafell ymolchi ychwanegol yn hanfodol ar gyfer y person anabl
- mae cegin ychwanegol yn hanfodol ar gyfer y person anabl
- mae ystafell sy'n cael ei defnyddio yn bennaf gan y person anabl (heblaw'r ystafell ymolchi, y gegin neu'r tŷ bach) - er enghraifft ystafell sy'n cael ei defnyddio ar gyfer storio offer dialysis.
- lle ychwanegol y tu mewn i'r eiddo er mwyn defnyddio cadair olwyn.
Dyw ddim ar gyfer y personau canlynol
Dydych chi ddim yn gymwys i gael gostyngiad am addasiadau eraill, megis:
- Rheiliau llaw
- Lifft risiau
- Rampiau
- Cawod mynediad hwylus
Cyflwyno cais
Cyn i chi ddechrau
Bydd arnoch chi angen eich rhif treth y cyngor er mwyn cyflwyno cais.
Wedi i chi gyflwyno cais
Wedi i chi gyflwyno cais, byddwn ni'n ymweld â'ch eiddo er mwyn gwirio'i fod yn bodloni ein gofynion. Mae'n bosibl y cymer hyd at 3 mis i gwblhau ein hymweliad.
Bydd raid i chi barhau i dalu eich bil Treth y Cyngor tra bod canlyniad eich cais yn cael ei benderfynu.
Os bydd eich bil treth y Cyngor yn cael ei gymeradwyo, bydd eich gostyngiad yn cael ei ôl-ddyddio ar sail y dyddiad y cafodd eich eiddo ei newid.
Gwneud cais am Ostyngiad i Bobl Anabl
Cymorth wrth gyflwyno cais
Os oes arnoch chi angen cymorth wrth wneud cais ac y byddech chi'n cael budd o gymorth wyneb yn wyneb, bydd modd i chi drefnu apwyntiad IBobUn. Bydd modd i chi gyfarfod ag aelod o'r garfan mewn llyfrgell RhCT; bydd yn rhoi cymorth i chi gwblhau eich cais a'i gyflwyno
Trefnu apwyntiad
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os bydd newid yn eich amgylchiadau gan y byddai modd i hyn effeithio ar eich hawl i ostyngiad.
Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Cysylltwch â ni
E-bost: refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425002