Disgowntiau, eithriadau a gostyngiadau o ran treth y Cyngor

Os chi yw'r unig berson 18 mlwydd oed neu hŷn yn eich cartref sy'n talu treth y Cyngor, rydych chi'n gymwys i gael disgownt o 25%.
Does dim rhaid i fyfyrwyr dalu treth y Cyngor. Os ydych chi'n byw gyda myfyriwr amser llawn, mae'n bosibl y byddwch chi'n gymwys i gael disgownt ar eich treth y Cyngor.
Os ydych chi'n berson sydd yn neu wedi gadael gofal, a'ch bod dan 25 mlwydd oed, mae'n bosibl y cewch eithriad neu ostyngiad o ran swm treth y Cyngor rydych chi'n ei dalu.
Os ydych chi neu berson yn eich eiddo yn anabl yn barhaol, mae'n bosibl eich bod yn gymwys i gael gostyngiad yn eich bil treth y Cyngor.
Os oes gyda chi neu berson yn eich eiddo amhariad gwybyddol sylweddol, mae modd i chi wneud cais am eithriad neu ddisgownt o ran treth y Cyngor.
Os ydych chi ar incwm isel neu'n cael budd-daliadau penodol mae'n bosibl y bydd modd i chi gael gostyngiad ar eich bil at ddibenion talu am ran o'r gost neu'r cyfan.
Mae'n bosibl y byddwn chi'n gymwys i gael disgownt ar eich bil treth y Cyngor os ydych chi'n byw mewn llety'n ymwneud â'ch swydd ond eich bod yn atebol am dalu treth y Cyngor mewn eiddo arall.
Mae ystod o amgylchiadau lle bydd eiddo'n destun eithriad treth y Cyngor.
Os ydych chi'n wynebu caledi ariannol yn sgil digwyddiad annisgwyl, mae modd i chi wneud cais am ostyngiad ar eich bil treth y Cyngor.