Skip to main content

Disgowntiau ac eithriadau Treth y Cyngor i fyfyrwyr

Dyma'r drefn

Os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn sy'n byw ar eich pen eich hun neu gyda myfyrwyr amser llawn eraill, a neb arall cewch chi eich eithrio rhag taliadau Treth y Cyngor.

Os ydych chi'n byw mewn llety preifat, er enghraifft rydych chi'n rhentu tŷ sy'n cael ei rannu, rhaid i chi wneud cais am eich eithriad.

Os ydych chi'n byw mewn neuadd breswyl ar gyfer myfyrwyr, rydych chi'n cael eich eithrio'n ddiofyn rhag talu Treth y Cyngor, a does dim rhaid i chi wneud cais.

Os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn ac yn byw gyda rhywun arall y mae rhaid iddyn nhw dalu treth y Cyngor, mae'n bosibl y bydd gwneud cais am eithriad i fyfyrwyr yn rhoi hawl i'r person hwnnw gael disgownt person sengl.

Ar gyfer pwy y mae (cymhwysedd)

Rydych chi'n gymwys i gael disgownt neu eithriad os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn ar gwrs sydd:

  • yn para o leiaf 1 flwyddyn galendr neu academaidd am o leiaf 24 wythnos o'r flwyddyn
  • y mae 21 awr o astudio, tiwtora neu brofiad gwaith, fel arfer, yn rhan ohono bob wythnos yn ystod y tymor.

Cyflwyno cais

Cyn i chi ddechrau

Bydd arnoch chi angen prawf eich bod yn astudio. Rhaid i'r prawf yma fod yn dystysgrif cofrestru neu dystysgrif myfyriwr y mae eich prifysgol neu goleg wedi'i gyflwyno.

Mae rhaid i chi barhau i dalu eich bil Treth y Cyngor tra bod canlyniad eich cais yn cael ei benderfynu.

Gwneud cais am eithriad i fyfyrwyr

Cymorth wrth wneud cais

Os oes arnoch chi angen cymorth wrth wneud cais, ac y byddai cymorth wyneb yn wyneb o fudd i chi, mae modd i chi drefnu apwyntiad IBobUn. Mae modd i chi gyfarfod mewn llyfrgell RhCT ag aelod o'r garfan; bydd yn rhoi cymorth i chi gwblhau eich cais a'i gyflwyno.

Trefnu apwyntiad

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich amgylchiadau'n newid gan y byddai modd i hyn effeithio ar eich hawl i ddisgownt neu ostyngiad. 

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Cysylltwch â ni

E-bost: refeniw@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425002