Ymddygiad sy'n achosi aflonyddwch, braw neu ofid i unigolion neu gymunedau yw ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae modd i hyn gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:
- Cam-drin geiriol neu fygylu
- ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol
- Anghydfodau rhwng cymdogion sy'n effeithio ar ansawdd bywyd
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i gydweithio i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a mynd i’r afael â’r math yma o ymddygiad, gan sicrhau bod cymunedau'n teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi.
Ein Dull o Fynd i'r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Heddlu De Cymru wedi mabwysiadu dull gweithio mewn partneriaeth er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys:
- Rhoi cymorth i’r bobl hynny sy’n dioddef yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Annog y gymuned i ymgysylltu â ni a rhoi gwybod am achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Ymyrraeth gynnar a mesurau ataliol
- Gweithio gyda darparwyr tai, gwasanaethau ieuenctid ac asiantaethau cymorth
- Defnyddio pwerau gorfodi lle bo angen (e.e. rhybuddion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned, Gwaharddebau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a chamau cyfreithiol eraill)
Y nod bob amser yw datrys problemau cyn gynted â phosibl gan amddiffyn y rhai sydd wedi'u heffeithio.
Rhoi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol
Does dim modd i Garfan Ymddygiad Gwrthgymdeithasol RhCT dderbyn gwybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn uniongyrchol gan aelodau'r cyhoedd, rhaid i’r asiantaeth berthnasol ymchwilio i bob achos o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn y lle cyntaf a'i gyfeirio at y garfan drwy sianeli swyddogol.
Os ydych chi'n profi neu'n dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae'n bwysig rhoi gwybod am bob digwyddiad. Mae modd rhoi gwybod trwy gysylltu â-
Heddlu De Cymru
Ffoniwch 101 - Sefyllfaoedd nad ydynt yn argyfwng
Ffoniwch 999 - Mewn sefyllfa argyfwng, os oes perygl i fywyd neu os oes trosedd difrifol yn digwydd
Gwefan Heddlu De Cymru - Rhoi gwybod drwy offeryn 'Rhoi gwybod am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol' Heddlu De Cymru ar y wefan: https://www.heddlu-de-cymru.police.uk/
Bydd darparu gwybodaeth gywir, fel amseroedd, dyddiadau a manylion digwyddiadau, yn helpu’r asiantaethau i ymateb yn effeithiol.
Cyflwyno Cais am Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (Yn Ffurfiol yn hysbys fel Sbardun Cymunedol)
Os ydych nad ydych chi'n teimlo bod eich adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael sylw digonol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf neu’r asiantaethau partner, fel Heddlu De Cymru neu Ddarparwyr Tai, mae gyda chi'r hawl i ofyn i ni gynnal Adolygiad o Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, neu ‘Sbardun Cymunedol’ gynt.
I ofyn am adolygiad, bydd angen i chi glicio ar y ddolen isod a fydd yn mynd â chi'n uniongyrchol at wefan y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu –
Gofyn am Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Bydd angen i chi ddarparu:
- Manylion y digwyddiadau a adroddwyd
- Dyddiadau a rhifau cyfeirnod (os ydyn nhw ar gael)
- Gwybodaeth am yr effaith arnoch chi neu'ch aelwyd
Mae modd gweld rhagor o fanylion am yr Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, gan gynnwys pwy a phryd y mae modd cyflwyno cais yma
Carfan Cymunedau Diogel
E-bost: CymunedauDiogel@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 425001
Trothwy Cymunedol De Cymru
Cymorth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Swyddfa Gartref