Skip to main content

Asesiadau o'r effaith ar breifatrwydd

Proses sy'n helpu i asesu risg i breifatrwydd unigolion wrth gasglu, defnyddio a datgelu gwybodaeth yw Asesiad o'r Effaith ar Breifatrwydd (PIA). Rydyn ni'n defnyddio Asesiad o'r Effaith ar Breifatrwydd er mwyn adnabod beth sy'n peryglu preifatrwydd, rhagweld problemau a chynnig datrysiadau.

Prif bwrpas Asesiad o'r Effaith ar Breifatrwydd yw sicrhau ein bod ni'n ymddwyn mewn modd cyfrifol o ran preifatrwydd.  Dydy Asesiad o'r Effaith ar Breifatrwydd ddim yn ofyniad cyfreithiol, fodd bynnag, dyma ffordd o arddangos arfer da a thryloywder.  Prif ffocws yr Asesiad o'r Effaith ar Breifatrwydd yw arddangos ein bod yn cydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data. Mae'r asesiad hefyd yn sicrhau ein bod ni'n cydymffurfio ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall.

Bydd Asesiad o'r Effaith ar Breifatrwydd sydd wedi'i chwblhau yn cynnwys yr elfennau isod:

  • Preifatrwydd gwybodaeth bersonol
  • Preifatrwydd y person
  • reifatrwydd ymddygiad personol
  • Preifatrwydd cyfathrebu personol

Mae modd cynnal yr Asesiad Preifatrwydd ar sawl lefel, gan gynnwys Asesiad llawn o'r Effaith ar Breifatrwydd neu wiriad cydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data sylfaenol.  Bydd y math o asesiad sydd ei angen yn dibynnu ar lefel y risg i breifatrwydd sy'n gysylltiedig â'r prosiect.

Mae'r Asesiadau o'r Effaith ar Breifatrwydd canlynol yn ymwneud ag amrywiaeth o gynlluniau canol trefi RhCT.