Nod gwaith Ymgysylltu â’r Gymuned yw meithrin cydberthnasau er mwyn atal troseddu ac achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a'u lleihau. Mae'n ymwneud â gwrando ar bryderon am ddiogelwch y gymuned a chydweithio er mwyn datrys problemau. Dyma rai o'r ymgyrchoedd rydyn ni'n eu hyrwyddo ar hyn o bryd:
Call it out
Mae Call It Out yn weithdy hanner diwrnod sy'n cynnwys 2 sesiwn awr o hyd sy'n mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Mae'r awr gyntaf yn egluro ystyr rheolaeth orfodol, ei gwahanol ffurfiau a sut i gyfeirio goroeswyr at rwydweithiau cymorth. Mae'r ail sesiwn yn egluro beth yw cam-drin domestig, ei wahanol ffurfiau a sut i gyfeirio goroeswyr at rwydweithiau cymorth.
Mae'r hyfforddiant yn rhad ac am ddim i unrhyw sefydliad neu grŵp cymuned a fyddai'n elwa arno.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Damon Maller drwy e-bost: damon.maller@rctcbc.gov.uk
In her shoes
Mae In Her Shoes yn mynd i'r afael â chasineb at fenywod yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn dysgu beth yw ystyr gwrywdod gwenwynig, casineb at fenywod, aflonyddu rhywiol a sut i herio'r materion yma.
Mae'r hyfforddiant yn rhad ac am ddim i unrhyw sefydliad neu grŵp cymuned a fyddai'n elwa arno.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Damon Maller drwy e-bost: damon.maller@rctcbc.gov.uk"