Mae'n huned Teledu Cylch Cyfyng ym Mhontypridd yn cadw'r cyhoedd yn ddiogel, atal troseddwyr ac yn darparu tystiolaeth bwysig i ymchwiliadau troseddau ar draws y fwrdeistref sirol.
Trosedd Casineb yw unrhyw drosedd sydd wedi'i chyflawni yn erbyn person neu eiddo a gafodd ei chymell gan gasineb y troseddwr tuag at berson/pobl eraill am fod yn wahanol.
Diffiniad Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu o Drosedd Casineb yw: “Os yw unigolyn/unigolion yn cyflawni troseddau'n rhagfarnllyd yn erbyn grŵp o bobl sy'n hawdd ei gydnabod, mae'n drosedd casineb.” Dyma un o'r diffiniadau mwyaf hawdd i'w ddeall o ran diffiniadau'r heddlu. Dydy'r cyhoedd ddim bob amser yn rhoi gwybod i ni am drosedd casineb. Mae'n bosib bod nifer o ffactorau wedi effeithio ar hyn. Mae'n bwysig gwybod bod Heddlu De Cymru yn ymroi i sicrhau bod pob unigolyn yn y gymdeithas yn cael ei drin yn deg a phriodol. Mae modd i ymatebion amrywio yn ddibynnol ar anghenion diwylliannol, lleol neu unigol. Mae ymateb i droseddau casineb yn dod o dan y categori yma. Os ydych chi'n gwybod am unrhyw achosion o drosedd, er enghraifft cam-drin geiriol, aflonyddwch, ymosodiadau corfforol, niwed i eiddo, bwlio neu graffiti sydd wedi'u cymell gan: · Hiliaeth · Crefydd neu Gred · Homoffobia · Trawsffobia · Anabledd
Rhoi gwybod am droseddau casineb Os ydych chi angen rhoi gwybod am drosedd casineb, ffoniwch un o'r rhifau canlynol:
Uned Lleiafrifoedd Ethnig Heddlu De Cymru Ffôn: 01443 743672 / 029 2052 7234 / 01639 889125
Llinell Troseddau Casineb Ffôn: 0800 5878973 Oedd yr wybodaeth yma'n ddefnyddiol?