Skip to main content

CWESTIYNAU CYFFREDIN

Beth yw'r cyfyngiadau o ran y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar hyn o bryd yn Rhondda Cynon Taf?

Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus presennol yn dynodi pob rhan o Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Barth Yfed a Reolir. Dydy hyn ddim yn gwahardd cario alcohol neu yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus neu'i gwneud hi'n anghyfreithlon i wneud hynny, cyn belled â bod yr unigolyn/unigolion yn yfed yn gyfrifol.

Mae'r Gorchymyn presennol hefyd yn dynodi 'Parthau Gwahardd Sylweddau Meddwol' yng Nghanol Tref Pontypridd a Chanol Tref Aberdâr (ardaloedd penodol o Bontypridd a Chanol Tref Aberdâr - cyfeiriwch at y Mapiau sydd wedi'u cynnwys).  Mae'r Gorchymyn yn gwahardd unigolion yn yr ardaloedd yma rhag amlyncu, anadlu, chwistrellu, ysmygu neu ddefnyddio sylweddau meddwol mewn mannau cyhoeddus.

Caiff yfed alcohol yn y parthau gwahardd ei ganiatáu dim ond pan fo'r gweithgaredd hwnnw yn cael ei wneud mewn adeilad neu ffiniau adeilad sydd wedi'i awdurdodi i'w ddefnyddio ar gyfer cyflenwi alcohol.

Mae dirwy benodedig o £100 wedi'i gosod ar gyfer achosion o dorri'r gorchymyn (dyma'r uchafswm sy'n cael ei ganiatáu).

Beth yw Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus?

Bwriad gweithredu gorchmynion diogelu mannau cyhoeddus yw delio â niwsans neu broblem benodol mewn ardal benodol sy'n niweidiol i ansawdd bywyd y gymuned leol, trwy osod amodau, mae rhaid i bawb gydymffurfio â nhw, ar ddefnydd yr ardal. Mae modd defnyddio'r gorchymyn yma gyda phroblemau tebyg yn y dyfodol. Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn caniatáu i gynghorau gyflwyno'r gorchmynion yma, ar ôl iddyn nhw ymgynghori â chymunedau ac eraill sydd â diddordeb. Mae rhaid adolygu'r gorchmynion bob tair blynedd i sicrhau eu bod nhw'n angenrheidiol.

Beth yw ystyr Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Bwrdeistref Sirol gyfan?

Nod y Gorchymyn fydd rhoi'r pwerau angenrheidiol i awdurdodau lleol gyflwyno cyfyngiadau ar weithgareddau a ffyrdd o ymddwyn yr ystyrir eu bod nhw'n 'wrthgymdeithasol' mewn 'mannau cyhoeddus'. Mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus wedi'i gynllunio i atal a gwahardd ffyrdd penodol o ymddwyn. Ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae amodau ar yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus, ac mae hyn yn rhoi'r pŵer i swyddogion yr heddlu a swyddogion gorfodi eraill ofyn i unigolyn sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac sydd ym meddiant alcohol, roi'r gorau i'w yfed. Mae hefyd yn rhoi'r pŵer i swyddogion yr heddlu/swyddogion gorfodi atafaelu'r alcohol. Os bydd yr unigolyn yn gwrthod rhoi'r gorau i yfed alcohol, ar ôl i swyddog yr heddlu/swyddog gorfodi ofyn iddo wneud hynny, ac yn gwrthod rhoi unrhyw gynwysyddion sydd, ym marn y swyddog, yn cynnwys alcohol, bydd ef/hi yn torri'r gyfraith. Caiff y Gorchymyn ei weithredu gan yr Awdurdod Lleol (gweithwyr ag awdurdod) a'r heddlu. Os caiff unrhyw amodau o'r Gorchymyn eu torri, bydd hyn yn drosedd ac yn arwain at ddirwy o £100 (drwy Hysbysiad Cosb Benodedig), neu ddirwy o £1,000 os caiff yr unigolyn ei erlyn.

A ydy'r Gorchymyn wedi'i orfodi ledled y fwrdeistref yn gwahardd yfed alcohol?

Nac ydyCaiff ymddygiad y person sy'n yfed alcohol ei ystyried gan y rhai sy'n gorfodi'r gorchymyn wrth iddyn nhw gymryd unrhyw gamau gweithredu. Does dim disgwyl i'r unigolion sy'n yfed alcohol yn synhwyrol fod yn destun gofynion y gorchymyn. Mae canllawiau'r Swyddfa Gartref yn atgyfnerthu hyn.

Serch hynny, fydd dim modd yfed alcohol yn y parthau gwahardd, heblaw mewn perthynas â gweithgaredd, adeilad neu gwrtil mangre sydd wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio ar gyfer cyflenwi alcohol trwy drwydded neu dystysgrif mangre clwb neu ganiatâd sydd wedi'i roi o dan adran 115E o Ddeddf Priffyrdd 1980

Beth yw Sylweddau Meddwol?

Mae Sylweddau Meddwol yn golygu sylweddau sydd â'r gallu i ysgogi neu iselhau'r system nerfol ganolog (mae hyn yn cynnwys alcohol a'r hyn y cyfeirir atyn nhw yn gyffredinol fel 'anterthau cyfreithiol'): Bydd eithriadau'n berthnasol lle mae'r sylweddau'n cael eu defnyddio at ddibenion dilys a meddygol (a bod modd profi hyn), yn cael eu rhoi i anifeiliaid fel meddyginiaeth, yn sigarennau (tybaco) neu anweddwyr (vaporisers) neu'n fwydydd wedi'u rheoleiddio gan ddeddfwriaeth Bwyd, Diogelwch neu Iechyd.

Beth yw buddion y Gorchymyn yma?

Prif fuddion yw lleihau yfed alcohol ar y stryd sy'n cael effaith negyddol ar gymunedau a'r amgylchedd, wrth leihau defnydd niweidiol o alcohol a diogelu pobl sy'n agored i niwed.

Ble mae'r Parthau Gwahardd Sylweddau Meddwol?

Mae'r Parthau Gwahardd Sylweddau Meddwol yng Nghanol Tref Pontypridd a Chanol Tref Aberdâr. Gweler y mapiau isod. Mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) presennol yn dynodi pob rhan o Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Barth Yfed a Reolir.

Parth Gwahardd Sylweddau Meddwol Aberdâr

Aberdare-PSPO-Map

Parth Gwahardd Sylweddau Meddwol Pontypridd

Pontypridd-PSPO-Alcohol-MAP