Mae
Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn darparu help a chymorth i unrhyw un yn ne Cymru sydd wedi'i effeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan drosedd. Rydyn ni'n elusen annibynnol. Dydyn ni ddim yn rhan o'r heddlu, y llysoedd nac unrhyw asiantaeth cyfiawnder troseddol arall.
Mae'r gwasanaeth am ddim, yn gyfrinachol ac ar gael p'un a yw'r trosedd wedi cael ei hadrodd i'r Heddlu ai peidio a waeth pryd y digwyddodd.
Sut gallwn ni fod o gymorth?
- Help i rieni gefnogi plant sydd wedi dioddef yn anuniongyrchol
- Helpu i roi gwybod i'r heddlu am drosedd
- Gwybodaeth am y broses cyfiawnder troseddol a mynd i'r llys
- Cymorth gyda'r awdurdod Iawndal Anafiadau Troseddol
- Atgyfeiriadau at asiantaethau eraill am gymorth arbenigol
- Cymorth i'r rhai sy'n dioddef yn sgil ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Help i gael mynediad at wasanaethau Cyfiawnder Adferol
Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, wedi’u lleoli yn eich ardal chi, ac mae modd cynnig cymorth a chefnogaeth ar unwaith, ac yn yr hirdymor, er mwyn eich galluogi i ymdopi ag effeithiau trosedd a dod drostynt.
Rydyn ni'n deall bod profiad pawb yn wahanol. Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo amrywiaeth o emosiynau, efallai y bydd gyda chi gwestiynau heb eu hateb neu efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod wedi drysu ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd nesaf.
Byddwn ni'n gweithio gyda chi i ddeall y ffordd orau i'ch helpu chi a byddwn ni yno i chi cyhyd ag y rydych chi ein hangen.
Cysylltwch â Ffocws Dioddefwyr De Cymru heddiw ar 0300 30 30 161.
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8.00am - 8.00pm
Y tu allan i'w horiau arferol, mae modd i chi gysylltu â'r Llinell Gymorth Genedlaethol ar 080 8168 9111 - ar gael 24 awr ac ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Neu mae modd i chi fynd i wefan Ffocws Dioddefwyr De Cymru