COVID-19 - DYCHWELYD I'R GWAITH - CYFARWYDDYD PELLACH I REOLWYR A STAFF
Annwyl Gydweithiwr,
Cyfeiriaf at ddiweddariad blaenorol yr Uwch Garfan Arwain, a oedd yn rhoi gwybod i chi am broses Asesiad Risg Hunanadrodd i Staff (Covid-19).
Mae rhagor o ganllawiau a gwybodaeth ategol bellach ar gael i staff a rheolwyr, gan gynnwys fideo am sut i lenwi'r ffurflen, ffactorau i'w hystyried (megis y gweithle) ac addasiadau rhesymol, gwybodaeth am gadw pellter corfforol a rhagor. Mae'r wybodaeth yma ar gael mewn nifer o leoedd:
Mae'r canllaw yma'n annog rheolwyr a staff i gynnal trafodaethau parhaus a bod yn agored er mwyn sicrhau bod gan bawb sy'n cymryd rhan ddealltwriaeth lawn o'r trefniadau o ran dychwelyd i'r gwaith.
Mae'n ofynnol i bob aelod o staff gyflwyno sgôr ei asesiad i'w reolwr. .
Dylai'r unigolion sy'n cyflwyno sgôr sy'n nodi risg gymedrol neu uwch gael sgwrs â'u rheolwr er mwyn trefnu addasiadau yn y gweithle, sicrhau bod rhagor o Gyfarpar Diogelu Personol ar gael (os yw hynny'n ymarferol) neu weld a oes modd i'r aelod staff weithio gartref. Os bydd cwestiynau neu anghysondebau yn codi o ganlyniad i sgôr unigolyn, mae modd ei atgyfeirio at Glinigwr Iechyd Galwedigaethol er mwyn cael eglurhad gwell o'r sefyllfa. Mae canllawiau penodol ar gael ynglŷn â chyflyrau iechyd a'r risgiau sy'n gysylltiedig â nhw. Mae modd i glinigwyr Iechyd Galwedigaethol asesu hyn fesul achos.
Mae hefyd nifer o garfanau Adnoddau Dynol sy'n gallu darparu cymorth:
- Pe hoffech chi drafod y sgôr mewn cyd-destun amgylchedd gwaith neu dasgau gwaith, cysylltwch ag aelod o'r Garfan Iechyd a Diogelwch.
- Os oes cwestiwn gyda chi sy'n ymwneud â nodweddion gwarchodedig, er enghraifft, pobl anabl neu bobl BAME, neu pe hoffech chi wybodaeth ynglŷn ag addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r Garfan Materion Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
- Bydd modd trafod unrhyw faterion cyflogaeth eraill â'ch Carfan Cysylltiadau â Gweithwyr.
Cofion cynnes
Richard Evans
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol