Skip to main content

Deunyddiau Peryglus

Mae'n bosibl y bydd rhaid i'r gwasanaethau argyfwng, y Cyngor ac asiantaethau eraill ymchwilio i amrediad eang o gemegau yn gollwng, tanau a digwyddiadau eraill yn ymwneud â deunyddiau ymbelydrol. Efallai y bydd y digwyddiadau yma yn beryglus i iechyd y cyhoedd a/neu'n llygru'r amgylchedd.

Efallai bod y perygl cemegol/amgylcheddol o ganlyniad i:

  • Safle diwydiannol sefydlog (e.e. gweithiau cemegol mawr neu orsaf bwer niwclear)
  • Cerbyd neu gynhwysydd wrth gael ei gludo
  • Deunydd sydd wedi'i adael ar dir cyhoeddus neu breifat.

Cyngor ar ddeunyddiau peryglus

Os ydych chi'n byw ger perygl diwydiannol, efallai eich bod wedi derbyn cerdyn gwybodaeth ynglŷn â'r safle a'r hyn y dylech chi ei wneud mewn argyfwng.

Gwnewch yn siwr eich bod yn deall yn llwyr beth yw'r perygl, a beth i'w wneud os oes argyfwng.

O safbwynt nifer o ddigwyddiadau sy’n ymwneud â sylweddau peryglus, dyma'r cyngor gorau ar y cychwyn cyntaf:

Ewch i Mewn, Aros a Gwrando

Ewch i Mewn:

  • Ewch i mewn i'ch tŷ (lan llofft yw'r lle gorau)
  • Caewch bob drws allanol a phob ffenestr
  • Diffoddwch systemau awyru
  • Diffoddwch offer nwy
  • Rhwystrwch unrhyw ddrafftiau a chau caeadau gwresogyddion tanwydd

Aros:

  • Arhoswch yn eich cartref ac aros am ragor o gyfarwyddiadau
  • Byddwch yn barod i gynnig lloches i bobl eraill
  • Peidiwch â chwilio am deulu neu ffrindiau
  • Diffoddwch bob fflam, er enghraifft fflamau peilot
  • PEIDIWCH â mynd tu allan nes bod yr Heddlu yn dweud wrthoch chi am wneud hynny. Pan fo ymbelydredd, mae popeth yn ymddangos yn ôl yr arfer. Fyddwch chi ddim yn gallu gweld, arogli neu deimlo bod unrhyw beth o'i le.

Gwrando:

  • Gwrandewch ar eich gorsaf radio BBC leol (92.4 a 103.9 FM) neu wylio'r teledu am ragor o wybodaeth. Mae gan y BBC gynlluniau i roi gwybodaeth gyhoeddus mewn argyfwng. Nodwch amleddau radio lleol.
  • Yn ogystal â hyn, byddai'n synhwyrol cael radio troi â llaw (wind-up radio). Peidiwch â defnyddio'r ffôn. Defnyddiwch y ffôn mewn argyfwng yn unig.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth, neu i gysylltu â'r Garfan Cynllunio ar gyfer Argyfyngau, defnyddiwch y manylion isod: 

Cynllunio ar gyfer Argyfyngau

Tŷ Sardis,

Pontypridd
CF37 1DU

Ffôn: 01443 425011