Dychwelodd dysgwyr Cyfnod Sylfaen i'r ysgol ar 22 Chwefror 2021 ac wedi hynny, a dychwelodd holl ddysgwyr Cyfnod Allweddol 2 a rhai grwpiau blwyddyn ysgol uwchradd i'r ysgol ar 15 Mawrth 2021 ac wedi hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd pob dysgwr yn dychwelyd i'r ysgol ar ôl Gwyliau'r Pasg (h.y. o ddydd Llun 12 Ebrill 2021).
Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gweler isod am 'Gwestiynau Cyffredin am Ysgolion' (Cwestiynau Cyffredin) a dolenni defnyddiol eraill.
Dolenni pwysig Llywodraeth Cymru
Mae rhagor o wybodaeth am arholiadau yn 2021 hefyd ar gael drwy:
https://www.qualificationswales.org
https://www.wjec.co.uk/
Bydd cyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru o ran y Coronafeirws yn cael ei gyhoeddi yma: https://llyw.cymru/coronafeirws.
Cwestiynau Cyffredin (Tymor yr Hydref 2020/21)
Mae'r Cyngor wedi paratoi rhai cwestiynau cyffredin ynglŷn â dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi i roi cymorth i rieni, cynhalwyr (gofalwyr) a disgyblion. Mae'r rhain yn ymdrin ag ystod o bynciau gan gynnwys adeiladau ysgol, y diwrnod ysgol, arlwyo, gwisg ysgol, salwch a thrafnidiaeth.
Cwestiynau Cyffredin Ysgolion
Absenoldeb disgyblion oherwydd Covid-19
Bwriwch olwg ar y canllaw cyfeirio i rieni a gwarcheidwaid mewn perthynas ag absenoldeb yn ymwneud â Covid-19 o'r ysgol.
CANLLAW cyflym
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.