Skip to main content

Cyngor gan RCT i Eiddo Trwyddedig

  • Rhaid i bob eiddo sydd wedi'i drwyddedu i werthu alcohol ar y safle beidio â gwerthu diodydd alcoholig ar ôl 10pm.  Mae hyn yn golygu bod rhaid stopio gwerthu alcohol am 22:00. Mae modd i fwytai/clybiau/tafarndai roi 20 munud i'r cwsmeriaid orffen eu diod, ac mae rhaid i bob cwsmer fod allan o'r safle a'r drysau wedi'u cau erbyn 22:20. Rhaid i siopau stopio gwerthu alcohol am 22:00.
  • Gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig. Does dim hawl cynnig gwasanaeth wrth y bar o ddydd Iau 24 Medi. Rhaid i bobl eistedd yn eu seddi ac aelod o staff i gymryd archebion a gweini bwyd a diod.
  • Does dim modd i bobl gwrdd dan do ag eraill sydd ddim yn byw gyda nhw. Rhaid felly i gwsmeriaid eistedd gyda phobl sy'n byw gyda nhw yn unig mewn eiddo trwyddedig. Mae'r Adran Trwyddedu yn argymell i fusnesau ofyn am gerdyn adnabod gan bob aelod o'r grŵp er mwyn sicrhau bod y cyfeiriadau'n cyfateb a’ch bod chi'n glynu at y gofyniad ar eich safle. Rhaid cynnal pellter cymdeithasol o 2 fetr rhwng y rheiny sydd ddim yn byw gyda'i gilydd.
  • Does dim modd i bobl ffurfio aelwyd estynedig mwyach. Bydd hyn yn effeithio ar seddi yn yr awyr agored gan fod bellach angen cynnal pellter cymdeithasol o 2 fetr rhwng aelodau pob aelwyd wahanol. Felly er enghraifft, os oes grŵp o 4 person gyda chi a phob un ohonynt â chyfeiriad gwahanol, rhaid cynnal pellter o 2 fetr rhwng pob person wrth iddyn nhw eistedd wrth y bwrdd.
  • Oes angen i mi wisgo gorchudd wyneb mewn tafarn/clwb/bwyty? Mae'r safleoedd yma wedi'u trwyddedu i gwsmeriaid fwyta ac yfed ynddyn nhw, ac felly does dim rhwymedigaeth gyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb yn y safleoedd yma, heblaw eich bod chi mewn ardal lle na chaniateir bwyta nac yfed. Os ydych chi'n cerdded o fewn y safle, e.e. i'r tŷ bach, rydyn ni'n argymell i chi wisgo gorchudd wyneb.
  • Fydd pobl ddim yn cael mynd i mewn i'r Fwrdeistref, na'i gadael, heb esgus rhesymol. Dydy mynd allan am ddiod neu bryd o fwyd ddim yn esgus rhesymol. Dylech chi felly ond ganiatáu i gwsmeriaid ddod i mewn i'ch safle os ydyn nhw'n byw ym Mwrdeistref RhCT. Mae hawl gyda chi i ofyn am brawf o hyn wrth iddyn nhw gyrraedd, a gwrthod cwsmeriaid os nad ydyn nhw'n bodloni'r gofyniad yma.
  • Siopau diodydd trwyddedig – siopau/archfarchnadoedd. Rhaid stopio gwerthu alcohol am 10pm, hyd yn oed os oes gyda chi drwydded hwyrach. Mae modd i'r siop aros ar agor ond rhaid stopio gwerthu alcohol am 10pm.
  • Gorchudd wyneb mewn siopau. Mae'n ofyniad cyfreithiol i bawb wisgo gorchudd wyneb mewn siop. Os byddwch chi'n methu â chydymffurfio, efallai byddwch chi’n cael dirwy. Does dim cyfrifoldeb ar y staff i orfodi hyn ond mae modd iddyn nhw herio ac atgoffa am y rheolau.