Yn y diweddariad hwn roeddem yn awyddus i ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am y cynlluniau a sefydlwyd i alluogi pobl Wcráin i ddod i’r DU, gan gynnwys penderfyniad Llywodraeth Cymru i fod yn uwch-noddwr y cynllun Cartrefi i Wcráin.
C Sut gall pobl Wcráin ddod i’r Deyrnas Unedig?
Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu dau gynllun i helpu pobl i ddod i’r DU os ydynt yn ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin – y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, i bol sydd â chysylltiadau teuluol, a’r cynllun Cartrefi i Wcráin, ar gyfer y rheini sydd heb gysylltiadau teuluol yn y DU.
Q Sut gall unigolion helpu pobl yn Wcráin?
Gall pobl helpu drwy nifer o ffyrdd.
Mae llawer o’r llwybrau teithio ar gau a’r sustemau cludiant dan bwysau mawr, felly gallai anfon nwyddau ychwanegu at yr anawsterau ar lawr gwlad. Ond gyda rhoddion ariannol, bydd y sefydliadau sy’n ymateb i’r argyfwng yn gallu cael gafael ar y nwyddau brys yn lleol. Dylai unrhyw un sy’n gallu helpu ystyried gwneud rhodd ariannol i’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau.
Gall pobl yng Nghymru gofrestru gyda’r cynllun Cartrefi i Wcráin, cynnig dod yn noddwr a chynnig lle yn eu cartref i rywun sy’n dianc rhag y rhyfel yn Wcráin fyw am o leiaf chwe mis. Bydd pobl sy’n cofrestru ar y cynllun drwy wefan Cartrefi i Wcráin yn gallu cael eu paru gyda phobl sy’n ffoi o Wcráin ac yn dymuno dod i’r DU. Cawsom ein rhyfeddu gan garedigrwydd pobl Cymru hyd yn hyn – mae miloedd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun i gynnig bod yn noddwyr.
Rydym wrthi’n datblygu ffurflen ar-lein i fusnesau a sefydliadau gofrestru cynigion o gefnogaeth neu o gymorth ehangach fel llety, hyfforddiant, adnoddau iaith a mathau eraill o help. Bydd y ffurflen ar gael cyn bo hir a byddwn yn rhoi diweddariad pellach cyn gynted ag y bo modd.
C Ydy Llywodraeth Cymru’n rhedeg cynllun noddi ar wahân?
Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynllun Cartrefi i Wcráin a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU. Byddwn ni’n uwch-noddwyr i’r cynllun hwnnw. Golyga hynny y byddwn yn noddi hyd at 1,000 o bobl o Wcráin yn ystod y cam cyntaf ond gallem dderbyn rhagor o bobl.
I ddechrau, bydd y bobl sy’n dod atom drwy’r trefniadau uwch-noddwr yn cael dod i un o’n canolfannau croeso, sy’n cael eu creu ledled Cymru. Oddi yno, cânt fynd i lety tymor-canolig neu fwy hirdymor. Bydd gwasanaethau cymorth ar gael i’r bobl sy’n cyrraedd Cymru – gan gynnwys iechyd, cwnsela a gwasanaethau arbenigol eraill.
Rydym yn cydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol, gwasanaethau cyhoeddus Cymru a’r trydydd sector i gefnogi’r bobl sy’n cyrraedd drwy’r cynllun Cartrefi i Wcráin.
Rydym yn awyddus i wneud popeth y gallwn i warchod pobl Wcráin rhag ymyrraeth ddi-angen a lleihau eu gofid wrth iddynt gyrraedd Cymru. Rydym wedi gofyn i sefydliadau a’r cyfryngau beidio â datgelu lleoliad y canolfannau croeso a sefydlwyd gennym gyda chymorth mudiadau eraill.
Mae Cymru’n Genedl Noddfa. Mae croeso cynnes yng Nghymru i bawb sy’n dod yma o Wcráin
C Pryd fydd Cartefi i Wcráin yn dechrau?
Dechreuodd y cynllun Cartrefi i Wcráin ar 18 Mawrth. Bydd Llywodraeth Cymru’n dod yn uwch-noddwr o 26 Mawrth ymlaen.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y cynllun Cartrefi i Wcráin, ewch i
wefan Llywodraeth y DU. Os oes gennych gwestiynau am y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, ewch i
wefan Llywodraeth y DU. Hefyd, mae ein
gwefan Noddfa yn rhoi llawer o wybodaeth yn Wcraineg a ieithoedd eraill ar gyfer y bobl sy’n cyrraedd Cymru o Wcráin.