Skip to main content

Sut mae modd i chi helpu

Mae'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) yn darparu cymorth dyngarol brys i deuluoedd sy'n ffoi rhag y gwrthdaro. 

Bydd eich rhodd gyfan yn mynd i elusennau, gan gynnwys y Groes Goch Brydeinig ac Oxfam, sy'n gweithio ar y ffiniau lle mae pobl Wcráin wedi ffoi - ac ar y rheng flaen yn Wcráin ei hun. 

Y peth pwysicaf mae modd i unrhyw un ei wneud i helpu gyda'r argyfwng yma yw cyfrannu arian. Yn ôl y Groes Goch, rhoddion arian yw'r ffordd gyflymaf, fwyaf diogel a mwyaf uniongyrchol o helpu pobl sy'n wynebu argyfwng dyngarol. Does dim ots faint allwch chi fforddio ei roi – mae pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth. 

Bydd Llywodraeth San Steffan yn rhoi arian cyfatebol hyd at £20 miliwn o bunnoedd cyhoeddus am bob punt a roddir, sy’n golygu y bydd eich cefnogaeth yn mynd hyd yn oed ymhellach.

Rhoi arian i Apêl Ddyngarol Wcráin y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau

Mae UNICEF yn arbennig o bryderus am ddiogelwch a lles plant sydd wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, ac mae'r elusen yn gweithio 24 awr y dydd i gadw teuluoedd yn ddiogel.

Rhoi arian i UNICEF