Cynlluniau Ailsefydlu a Fisas:
Mynnwch olwg ar y canllawiau o ran y cymorth sydd ar gael i wladolion Wcráin ac aelodau o'u teulu gan Lywodraeth San Steffan.
Mae modd cael rhagor o gyngor gan ymgynghorydd cyfreithiol gwirfoddol drwy e-bostio ukraine@freemovement.org.uk.
Mae rhagor o gyngor ac arweiniad am system fewnfudo a lloches y DU ar gael ar wefan Right to Remain neu drwy wasanaeth Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf.
Cyrraedd Cymru:
Mae gwefan Noddfa Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth i bobl o Wcráin sy’n cyrraedd Cymru am fywyd yng Nghymru, gan gynnwys sut i roi gwybod am unrhyw bryderon am ddiogelu: Noddfa | Wcráin (llyw.cymru)
Mae llinell gymorth Llywodraeth Cymru wedi’i sefydlu i gynnig cyngor i bobl sy’n cyrraedd Cymru o Wcráin:
Ffôn: 0808 175 1508 (yn y DU) a 0204 5425671 (y tu allan i’r DU)
Mae Cymdeithas Pobl Wcráin ym Mhrydain Fawr hefyd yn cynnig cymorth i berthnasau gwladolion Prydeinig yn Wcráin, a hefyd gwladolion Wcráin sy'n byw yn y DU.
Cyngor Teithio o ran Wcráin
Mae gwybodaeth a chyngor swyddogol o ran teithio i Wcráin ac yn ôl i'r DU, ewch i GOV.UK.
Diogelu
Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Rydyn ni am amddiffyn plant a'u hawliau, er mwyn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau yma.
Brechlyn ar gyfer Covid-19
Mae gwybodaeth am frechlyn ar gyfer Covid-19 i'w chael ar y tudalennau yma.