Mae gyda ni garfan o Swyddogion Gofal y Strydoedd sy'n monitro strydoedd yn rheolaidd er mwyn dal perchnogion cŵn anghyfrifol yn y fan a’r lle. Mae cyfres o reolau ar waith yn y Fwrdeistref Sirol o dan y
Gorchymyn Mannau Cyhoeddus a Gwarchod. RHAID i BOB perchennog ci eu dilyn.
Os ydych chi wedi sylwi ar berchennog ci sydd ddim yn dilyn y rheolau neu'n achosi problemau mewn ardal, mae modd ichi roi gwybod i Garfan Gorfodi Gofal y Strydoedd amdanyn nhw ar-lein. Nodwch gymaint o wybodaeth â phosib, er mwyn inni fonitro'r ardal a'u dal nhw.
Byddwn ni'n trin yr holl wybodaeth mewn modd gwbl gyfrinachol ac yn trefnu monitro'r ardal/mater dan sylw o fewn 5 diwrnod gwaith.