Rydyn ni'n glanhau baw cŵn ac yn gwacáu biniau baw cŵn ar ein strydoedd ac yn ein parciau'n gyson.
Hefyd, mae gyda ni garfan o Swyddogion Gofal y Strydoedd sy'n cerdded y strydoedd er mwyn sicrhau bod perchenogion cŵn yn cael gwared ar faw eu cŵn yn y ffordd gywir.
Os ydych chi'n gweld problem baw cŵn, mae modd i chi roi gwybod i ni amdani.
Mae modd gwneud cais i gael gwared ar faw cŵn ar-lein.
Byddwn ni'n cael gwared â'r baw cŵn o fewn 3 diwrnod gwaith.