Rydyn ni'n glanhau baw cŵn ac yn gwacáu biniau baw cŵn ar ein strydoedd ac yn ein parciau'n gyson.
Os ydych chi'n meddwl bod angen bin baw cŵn newydd mewn ardal arbennig, mae modd i chi wneud cais am un.
Gwnewch gais am fin baw cŵn newydd ar-lein.
Bydd Swyddog yn ymweld â'r lleoliad ac yn edrych ar eich cais o fewn 14 diwrnod gwaith.
Nodwch: Dim ond hyn a hyn o finiau baw cŵn sydd ar gael, bydd yr Awdurdod Lleol yn penderfynu a oes angen bin yn yr ardal honno.