Skip to main content

Rheoli Ynni

Pam fod angen rheoli ynni yn Rhondda Cynon Taf?

Gwybodaeth Gefndirol

Amcan Craidd Agenda 21 yw lleihau llygredd drwy leihau'r defnydd o ynni, yn enwedig y llygryddion sy'n gyfrifol am y newidiadau yn yr amgylchedd sy'n eu hamlygu'u hunain yn fwyfwy.

Yn ystod Cynhadledd Kyoto cytunodd y Deyrnas Unedig i leihau allyriadau chwe nwy tŷ gwydr o 12.5% o ffigurau 1990 erbyn 2010. Yn ogystal â hyn, fe gyhoeddodd y Llywodraeth Ganolog darged gwirfoddol i leihau allyriadau CO2 o 20% yn ystod yr un cyfnod. Dydy'r targedau yma ddim yn rhwymo safleoedd unigol, ond maen nhw'n dangos pa welliannau sydd angen eu gwneud i gychwyn newid.

Os yw'r Deyrnas Unedig am gadw'r newidiadau ar eu lefel bresennol, bydd angen lleihad o 60% rhwng 2000 a 2050. Maen bosib bydd angen lleihad o 80% rhwng 2000 a 2080. Mae dulliau adnewyddadwy o gynhyrchu ynni yn derbyn llawer o sylw, ond lleihau'r defnydd o ynni ac egni yw'r dull mwyaf cost effeithiol o leihau allyriadau.

Mae sefydliadau Cyngor Rhondda Cynon Taf am helpu'i sefydliadau i gyrraedd y nod yma. Byddan nhw'n darllen mesuryddion ynni ac yn anfon yr wybodaeth i'r Uned Arbed Ynni. Bydd yr Uned yn darparu adroddiadau misol yn rhoi manylion eu defnydd o ynni ac egni. Bydd yr adroddiadau yma'n cymharu'r defnydd cyfredol gyda'r un cyfnod yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Bydd gofyn i'r sefydliadau sy'n dymuno manteisio ar y gwasanaeth anfon eu darlleniadau mesuryddion ynni (a darlleniadau eu mesuryddion dŵr hefyd, o bosibl) mor agos ag y mae'n ymarferol i ddiwedd pob mis, a'u cofnodi ar y ddalen sydd ynghlwm.  Bydd adroddiad yn dangos y tueddiadau defnydd ynni ac egni yn cael ei anfon at bob un o'r sefydliadau.

Beth ydyn ni wedi gwneud hyd yma?

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pennu targedau llym, sy'n mynnu ar leihad sylweddol mewn allyriadau carbon deuocsid. Rhaid i ni gydymffurfio â nhw. Hyd yma rydyn ni wedi cyrraedd ein targedau drwy nifer o fesurau arloesol.

Rydyn ni wedi gosod y mesurau canlynol mewn adeiladau cyhoeddus:

  • systemau gwresogi tanwydd biomas coed a phren (niwtral o ran carbon deuocsid)
  • boeleri cyddwyso effeithlonrwydd uchel
  • rhoi unedau trin aer modern tra effeithlon yn lle unedau trin aer darfodedig
  • adfer gwres
  • rheolyddion gwresogi ynni-effeithlon, rhannu systemau gwresogi yn barthau
  • casglu dŵr glaw
  • microgynhyrchu trydan ffotofoltaig
  • systemau dŵr poeth solar
  • awyru naturiol yn lle aerdymheru
  • rheolaeth goleuadau a goleuo ynni isel
  • gwres a phŵer cyfunedig (GPhC)
  • systemau rheoli ynni adeiladau (SRhYA)
  • gosod caeadau ar byllau nofio
  • defnyddio trydan wedi'i gynhyrchu o ffynonellau glân a gwyrdd ar gyfer adeiladau cyhoeddus
  • pympiau gwres o’r ddaear
  • arolygon o ddefnydd ynni a defnydd o ddŵr mewn adeiladau cyhoeddus
  • seminarau a chyhoeddiadau ar ymwybyddiaeth o ddefnydd ynni a defnydd o ddŵr i reolwyr adeiladau

Mesurau arbed dŵr:

  • wrinalau di-ddŵr
  • tapiau wedi’u rheoli trwy systemau is-goch
  • tapiau chwistrell
  • tapiau gwthio
  • sestonau cyfaint isel

Beth ydyn ni'n ceisio'i gyflawni? Pam y mae'n bwysig?

Rydyn ni am leihau ein hallyriadau a gollyngiadau carbon deuocsid yn sylweddol, er mwyn lleihau effaith cynhesu byd-eang yn unol ag ymrwymiadau a gafodd eu gwneud o dan Brotocol Kyoto. O ganlyniad i'r newidiadau yma fe gawn ni well gwerth am arian wrth gaffael cyfleustodau. Dyna'r ffordd i gael y pris gorau i'r pwrs cyhoeddus.

Pa fanteision gewch chi o hyn?

Manteision amgylcheddol drwy leihau allyriadau carbon deuocsid mewn ymgais i leihau effaith cynhesu byd-eang. Mae caffael cyfleustodau am y gwerth gorau yn lleihau'r baich ar y pwrs cyhoeddus. Bydd caffael trydan glân neu wyrdd i'w defnyddio mewn adeiladau cyhoeddus yn lleihau allyriadau a gollyngiadau carbon deuocsid yn y broses gynhyrchu.

Ydych chi'n pryderu ynghylch eich defnydd o ynni o ganlyniad i adroddiad a ddaeth i law? Byddwn ni'n falch i gynnig cyngor, cynnal arolygon, ac, o bosibl, weithredu cynlluniau arbed ynni.