Swyddog Rheoli Plâu
Wrth ymdrin â phlâu, fydd Swyddogion Rheoli Plâu ddim yn gweithio mewn llofftydd, dringo toeon gwastad neu doeon ar ongl neu ddefnyddio ysgolion.
Os bydd cnofil yn marw yn sgil triniaeth i gnofilod, cyfrifoldeb perchennog y tŷ yw cael gwared ar y corff o'r eiddo, llofft neu unrhyw le sy'n anodd ei gyrraedd. Os oes modd ei gyrraedd, defnyddiwch fag dwbl i roi'r corff ynddo a chael gwared arno drwy'r casgliad gwastraff cyffredinol.
Mae gwenyn yn rhan hanfodol o les cefn gwlad Cymru, ni fydd y Cyngor yn eu trin nhw.
Os oes haid o wenyn ar eich eiddo, mae'n bosibl eu bod nhw'n gorffwys ac yn bwriadu symud ymhen diwrnod neu ddau. Efallai bydd y Gymdeithas Gwenynwyr lleol yn casglu'r haid os yw'n ddiogel a bod modd ei gyrraedd. Am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt, ewch i www.cardiffbeekeepers.co.uk.
Trin pryfed
Helpwch Swyddogion Rheoli Plâu trwy glirio'r man sy'n cael ei effeithio o unrhyw annibendod diangen neu eitemau symudol. Hefyd, glanhewch y llawr gyda sugnydd llwch cyn yr ymweliad a chael gwared ar gynnwys y bagiau i atal unrhyw blâu pellach.
Am gyngor ar adnabod a thrin plâu amrywiol, ewch i wefan Cymdeithas Rheoli Plâu Prydain (BPCA) Gwefan BPCA.