NODWCH: Mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer y cwynion am losgi sydd wedi dod i law gan adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned ers i'r Llywodraeth gyflwyno cyfyngiadau ar gymdeithasu a theithio. Hoffen ni atgoffa'r cyhoedd o'r rheoliadau o ran llosgi o unrhyw fath.
Does dim deddfwriaeth benodol sy'n atal y cyhoedd rhag llosgi ond mae deddfwriaeth mewn grym er mwyn osgoi niwsans oherwydd mwg. Mae'n bosibl byddwch chi'n wynebu camau gorfodi a dirwy os bydd Niwsans Statudol wedi'i achosi. Does dim cyfnod amser penodol lle mae hawl llosgi gwastraff a chaiff Niwsans Statudol ei achosi unrhyw bryd yn ystod y dydd neu nos.
Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn nodi bod gan gynhyrchwyr gwastraff masnachol ddyletswydd gofal o ran yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd, felly mae'n anghyfreithlon i losgi unrhyw wastraff masnachol. Gallai hyn gynnwys gwastraff adeiladu ar ôl adnewyddu eiddo neu wastraff o'r ardd o gwmni tirlunio.
Byddwch yn ymwybodol o'ch cymdogion yn ystod y cyfnod ansicr yma.
Coelcerthi a Thân Awyr Agored
Gall coelcerth fod yn ffordd addas o gael gwared ar bren neu wastraff gardd nad oes modd ei gompostio. Serch hynny, os ydych chi'n bwriadu cynnau coelcerth, dylech chi gymryd camau i osgoi digio'ch cymdogion. Mae'n syniad da llosgi defnydd sych yn unig, a gwneud hynny pan fydd y tywydd yn addas. Cynnwch danau'n bell o goed, ffensys ac adeiladau. Does dim cyfreithiau mewn grym yn erbyn cynnau coelcerth, ond mae cyfreithiau mewn grym ynghylch niwsans o ganlyniad iddyn nhw. Mae modd i chi gael gwared ar wastraff y cartref neu'r ardd drwy'i gompostio neu'i ailgylchu yn un o'n Canolfannau Ailgylchu.
Cwyno am goelcerth
Os ydych chi o'r farn bod cŵyn ynghylch niwsans statudol yn gyfiawn, caiff Hysbysiad Cosb/Atal ei gyflwyno i'r person cyfrifol, neu feddiannwr/berchennog y safle (yn ôl yr achos). Bydd yn mynnu bod y niwsans yn dod i ben. Mae peidio â chydymffurfio â'r Hysbysiad Cosb/Atal yn drosedd a gall arwain at achos cyfreithiol. Os bydd llys yn dyfarnu'r person dan sylw'n euog o drosedd o'r fath yma, gall gael dirwy o hyd at £5,000 ar safle domestig a dirwy o hyd at £20,000 ar safle masnachol.
Rhoi gwybod am broblem gysylltiedig â choelcerth ar-lein
Adran Materion Llygredd ac Iechyd y Cyhoedd
Ebost: CymorthProsiectauIechydyCyhoedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301