Dyma'r meysydd o ran mesur ansawdd dŵr y mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn eu hystyried:
- Cyflenwadau Dŵr Preifat: Ar gyfer y rheiny sy’n cymryd cyflenwad dŵr preifat o ddyfrdyllau turio.
- dyfroedd ar gyfer ymdrochi: gan gynnwys pyllau nofio mewn canolfannau hamdden, pyllau Jacuzzi, a phyllau therapi dŵr.
- prif system cyflenwi dŵr: gan gynnwys cynhyrchwyr bwydydd a diodydd yn ogystal â chyflenwadau'r cartref o dro i dro.
Cyflenwadau Dŵr Preifat
Bydd y rhan fwyaf o eiddo yn Rhondda Cynon Taf yn defnyddio prif gyflenwad dŵr i ddarparu dŵr ar gyfer yfed, paratoi bwyd, coginio a glanweithdra. Os oes gyda chi bryder am ansawdd neu ddigonolrwydd y dŵr a gyflenwir o brif bibellau cyhoeddus, neu ollyngiad o’r prif gyflenwad cyhoeddus, dylech chi gysylltu â’ch darparwr dŵr yn y lle cyntaf; yn y rhan fwyaf o achosion Dŵr Cymru fydd hwn. Os yw’r pryder yn ymwneud â’r effaith y gallai’r dŵr ei chael ar ddiogelwch ac ansawdd bwyd neu ddiodydd a gynhyrchir gan fusnes gweithgynhyrchu bwyd neu fusnes sy’n ymwneud â bwyd, mae modd i chi hefyd gysylltu â’r Cyngor.
Mae modd i nifer fach o safleoedd ddefnyddio cyflenwad dŵr preifat, neu ar y cyd â phrif gyflenwad dŵr. Bydd cyflenwad dŵr preifat fel arfer yn casglu neu’n tynnu dŵr lleol ac mae modd iddo gludo, storio a thrin y dŵr cyn iddo gael ei yfed neu ei ddefnyddio'n rhan o weithgaredd bwyd. Mae modd dylunio a gweithredu cyflenwad dŵr preifat mewn sawl ffordd ac mae modd ei ddefnyddio gan ystod o safleoedd masnachol, bwyd, cyhoeddus a domestig. Mae'n bosibl bod cyflenwad dŵr preifat yn cael ei rannu rhwng sawl eiddo neu ei ddefnyddio gan un eiddo'n unig.
Mae Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 a Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwad dŵr preifat gael ei ddylunio a'i weithredu fel bod eu dyfroedd yn ddiogel ac yn iachus i'w yfed. Gall y Cyngor archwilio, monitro ac ymchwilio i rai cyflenwadau dŵr preifat yn rheolaidd a gall gynnal asesiad risg o gyflenwad dŵr preifat o bryd i'w gilydd er mwyn helpu i ystyried a yw'n ddiogel ac yn iachus i'w ddefnyddio. Lle bo angen, gall y Cyngor ofyn yn gyfreithiol am welliannau i gyflenwad dŵr preifat neu i drefniadau amgen gael eu rhoi ar waith ar gyfer darparu dŵr yfed, yn y tymor byr a’r tymor hwy. Gall y Cyngor gymryd camau gorfodi i helpu i symud ymlaen ag unrhyw ofynion a osodir a/neu i wneud gwaith sydd heb ei gyflawni os yw o'r farn ei fod yn briodol gwneud hynny. Wrth gyflawni ei ddyletswyddau a’i weithredoedd, mae modd i'r Cyngor adennill rhai costau rhesymol oddi wrth y person(au) perthnasol sy’n gysylltiedig â dŵr preifat, mae manylion y taliadau posibl perthnasol ar dudalen we “Ffioedd a Thaliadau” y Cyngor.
Mae’r Arolygiaeth Dŵr Yfed wedi cyhoeddi canllawiau ar ei gwefan sy’n esbonio sut mae Cynghorau’n rheoleiddio cyflenwadau dŵr preifat a sut y mae modd i bersonau perthnasol sicrhau bod y dŵr yn ddiogel ac yn iachus i’w ddefnyddio.
Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, yn defnyddio cyflenwad dŵr preifat a bod gyda chi bryder am ddiogelwch, iachusrwydd, neu ddigonolrwydd y dŵr, yna mae modd i chi gysylltu â'r Cyngor i drafod hyn. Os oes problem gydag ansawdd neu ddigonolrwydd y cyflenwad dŵr preifat, efallai y bydd disgwyl i’r person(au) perthnasol weithredu i ddatrys y mater, a allai gynnwys cael dŵr o gyflenwad arall ar eu traul eu hunain.
Os ydych chi'n bwriadu sefydlu cyflenwad dŵr preifat newydd (neu ail-greu un sydd wedi bod allan o ddefnydd ers mwy na deuddeg mis), yna dylech chi gysylltu â'r Cyngor yn gyntaf. Mae’n bosibl y bydd angen i’r Cyngor ystyried cynigion o’r fath a chynnal asesiad risg o’r cyflenwad dŵr preifat cyn cymeradwyo ei ddefnydd.
Gall y Cyngor geisio adennill costau rhesymol oddi wrth bersonau perthnasol am wasanaethau a ddarperir mewn perthynas â chyflenwad dŵr preifat. Caiff y ffioedd uchaf eu pennu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith yma.
Dyfroedd ymdrochi
Rydyn ni’n gyfrifol am brofi ansawdd pob pwll nofio gan gynnwys canolfannau hamdden, clybiau iechyd preifat, gwestai, pyllau nofio awyr agored, pyllau hydrotherapi, pyllau Jacuzzi a phyllau padlo.
Rydyn ni’n profi'r rhain bob mis o ran lefelau cemegau ac yn flynyddol ar gyfer eu hansawdd ficrobiolegol (bacteria). Os byddwn ni’n derbyn cŵyn neu os oes problemau gyda'r profion cemegol, byddwn ni’n profi’u hansawdd yn fwy aml.
Prif Gyflenwad Dŵr
Rydyn ni hefyd yn archwilio ansawdd y dŵr prif gyflenwad mae ein cynhyrchwyr bwydydd yn ei ddefnyddio, gan gynnwys dŵr ar gyfer bragdai a diwydiannau bwydydd eraill. Mae'n bosibl bod modd inni, yn ychwanegol at yr ymgymerydd statudol, gamu i mewn o dro i dro i brofi dŵr prif gyflenwad y cartref.
Yn ogystal â hynny, mae'r Arolygiaeth Dŵr Yfed, y corff gwladol ar gyfer gwarantu safon dŵr, yn paratoi adroddiad blynyddol ynghylch safon eich dŵr yfed.
Mae modd adrodd am ddigwyddiad llygredd dŵr ar-lein
Cysylltu â ni
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
E-bost: CymorthProsiectauIechydyCyhoedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk