Ydych chi'n ddigartref neu'n wynebu'r risg o fod yn ddigartref?
- Ydy eich teulu neu'ch ffrindiau'n gofyn i chi adael?
- Ydych chi wedi cael rhybudd i adael gan eich Landlord?
- Ydych chi'n dioddef anawsterau ariannol gyda'ch rhent neu forgais?
- Ydych chi wedi derbyn unrhyw orchmynion gan y Llys Sirol?
Os ydych chi mewn perygl o fod yn ddigartref, mae’n BWYSIG IAWN eich bod chi'n cysylltu â ni cyn gynted ag y bo modd. Po gynharaf y byddwn ni'n gwybod bod angen help arnoch chi, y mwyaf y gallwn ni eich helpu.
Oes angen cyngor ar dai arnoch chi?
- Ydych chi am wybod eich hawliau tai?
- A yw'ch cartref presennol yn anaddas ar gyfer eich anghenion?
- Ydych chi am wybod beth yw'ch opsiynau tai?
Atal Digartrefedd
Mae gwaith atal digartrefedd effeithiol yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor i atal pobl rhag dod yn ddigartref yn y lle cyntaf. Mae’r cyflenwad o dai cymdeithasol a thai preifat yn Rhondda Cynon Taf yn gyfyngedig iawn felly bydd gweithio gyda chi i osgoi dod yn ddigartref yn dasg allweddol i’r Garfan Materion Tai. Rydyn ni'n gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau partner a landlordiaid i'n helpu i wneud hyn a byddwn ni'n gofyn i chi weithio gyda ni er mwyn eich atal rhag dod yn ddigartref.
Llety Dros Dro
Os byddwch chi'n dod yn ddigartref, mae'n annhebygol y bydd modd i'r Cyngor gynnig cartref parhaol i chi ar unwaith. Gall hyn olygu eich bod chi'n cael math o “lety dros dro". Gallai hyn fod yn llety gwely a brecwast, llety a rennir, un o eiddo prydlesu’r Cyngor neu un o’n hosteli llety. Oherwydd y galw sylweddol am lety dros dro'r Cyngor, mae'r arosiadau presennol mewn llety dros dro yn hir iawn, yn aml yn fwy na 12 mis.
Cynnig llety
Oherwydd y galw aruthrol am bob math o lety yn y Fwrdeistref, efallai na fydd modd i ni gynnig llety i chi yn yr ardal o’ch dewis. Mae argaeledd neu lety mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn ardal Taf-elái, yn brin iawn. Mae'r rhestri aros yn hir i gael llety parhaol, hyd yn oed pan fo rhywun yn ddigartref.
Os ydych chi'n ddigartref, bydd y Cyngor yn cynnal asesiad ac yn nodi'r math mwyaf addas o lety i chi. Gall hyn gynnwys llety annibynnol mewn tai cymdeithasol neu’r sector rhentu preifat, tai a rennir neu ryw fath o lety â chymorth. Bydd dyletswyddau llety y Cyngor yn dod i ben ar ôl iddo nodi'r math mwyaf addas o lety i chi.
Beth allwn ni ei wneud?
- Eich helpu chi i aros yn eich cartref presennol trwy roi cyngor i chi ynglŷn â'ch hawliau tenantiaeth a'ch atal rhag dod yn ddigartref, er enghraifft, pan fydd eich landlord yn gofyn i chi adael
- Rhoi cyngor i chi os oes gyda chi ôl-ddyledion rhent neu anawsterau ariannol eraill
- Rhoi cyngor i'r rhai sy'n dioddef cam-drin domestig
- Rhoi cyngor am hawliau sy'n ymwneud ag anghydfodau landlord
- Helpu i ymchwilio i opsiynau tai gan gynnwys cael mynediad i'r sector rhentu preifat a llety â chymorth
- Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan Ceisio Cartref y Cyngor
- Cynnig cyngor ar wneud cais i'r Gofrestr Tai Cyffredin a Chymdeithasau Tai eraill
- Trafod telerau ar eich rhan os oes angen cymorth arnoch chi i gael eich gwaith atgyweirio wedi'i wneud neu os yw’ch landlord yn aflonyddu arnoch chi
- Penderfynu a ydych chi'n ddigartref drwy asesu'ch sefyllfa a rhoi cyngor ynglŷn â threfniadau llety dros dro
Cymorth Ychwanegol i Bobl Ifainc
Os wyt ti'n ifanc ac yn ddigartref, efallai y byddi di'n colli cysylltiad â dy ffrindiau a dy deulu. Efallai y byddi di hefyd yn colli cyfleoedd addysg a hyfforddiant. Gallwn ni ddarparu cyngor sy'n gysylltiedig â dy anghenion personol, a gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill i dy helpu di i fynd yn ôl adref. Os oes angen, gallwn ni hefyd ddarparu llety dros dro ar dy gyfer hyd nes y gallwn ni archwilio opsiynau tai eraill. Byddwn ni'n helpu i dy dywys di drwy'r system ac i sefyll ar dy draed unwaith eto.
Cysylltwch â ni:
Manylion Cyswllt
Y Gwasanaeth Materion Tai
Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU
Rhif ffôn: 01443 495188
Gwasanaeth Argyfwng y tu allan i oriau swyddfa: 01443 425011