Mae Aaron a Luke wrthi'n myfyrio ar eu profiad o brynu eu tŷ cyntaf gan ddefnyddio'r Grant Cartrefi Gwag.
Roedd sicrhau’r Grant Cartrefi Gwag yn golygu roedd modd i ni gamu i fyd prynu tŷ yn llawer cynt na'r disgwyl. Roedd angen i ni sicrhau blaendal o 15% ar gyfer ein morgais a byddai prynu tŷ a oedd yn barod i ni symud iddo ar unwaith wedi bod y tu hwnt i'n cyrraedd a byddai'n rhaid i ni gynilo am flwyddyn neu ddwy eto.
Mae gyda ni fabi ar y ffordd ac, er bod llawer o waith i'w wneud er mwyn gallu byw yn y tŷ, rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni mewn sefyllfa lawer mwy sefydlog wrth i ni ddechrau teulu