Mae Ffion sydd wedi prynu tŷ am y tro cyntaf, yn myfyrio ar ei phrofiad o'r grant isod.
Roeddwn yn ffodus i gael fy nerbyn am y Grant Cartrefi Gwag, fel prynwr tro cyntaf roedd y cyllid yma'n caniatáu imi brynu ac adnewyddu hen dŷ na fyddwn i wedi gallu ei fforddio fel arall. Erbyn hyn mae gyda fi dawelwch meddwl o wybod bod fy nghartref yn ddiogel ac yn cyrraedd safonau modern.
Roedd y broses yn syml gyda phob cam yn cael ei egluro'n drylwyr ac roedd y garfan Grant Cartrefi Gwag bob amser wrth law i ateb unrhyw gwestiynau.
Mae'r grant yn gyfle gwych i brynwyr tai a fyddai fel arfer yn cadw draw o eiddo sy'n gofyn am unrhyw beth mwy na gwneud gwaith cosmetig i fod addas i fyw ynddo. Byddwn i'n ei argymell i unrhyw un sy'n ystyried prynu cartref yn y dyfodol.