Dyma Jacob, perchennog eiddo, sy'n myfyrio ar ei brofiad o dderbyn y grant.
Fe ges i wybod am y grant gan ffrind a oedd wedi cyflwyno cais llwyddiannus yn y gorffennol. Roeddwn i eisoes wedi prynu'r eiddo cyn dod yn effro i'r grant ac roedd cael gwybod fy mod i'n gymwys yn newyddion gwych. Roedd y grant o gymorth mawr i fi drawsnewid tŷ a oedd mewn cyflwr gwael yn gartref clyd ar gyfer fy nheulu.
Er y gall elfennau o broses y grant fod ychydig yn anodd er mwyn sicrhau eich bod chi'n cydymffurfio â'r holl feini prawf, roedd gwybod bod modd i mi ofyn unrhyw gwestiynau neu drafod ymholiadau gyda fy syrfëwr, Allyn, yn ei gwneud yn broses fwy syml.
O ganlyniad i bandemig y Coronafeirws, doedd dim modd cynnal ymweliadau i'r safle na chyfarfodydd wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, roedd modd i mi gael cefnogaeth gan Allyn dros y ffôn ar unrhyw adeg. Byddai fe'n siarad yn uniongyrchol â fy adeiladwr ar adegau i sicrhau bod pethau'n cael eu cwblhau yn ôl yr angen. Byddai hyn yn helpu i dawelu fy meddwl a chadw pethau ar y trywydd cywir. Roedd hyn yn bwysig iawn i mi oherwydd roedd fy mhartner yn feichiog yn ystod cyfnod y gwaith adnewyddu ac roeddwn i'n gobeithio y byddai'r gwaith wedi'i gwblhau cyn i'r babi gael ei eni.
Mae'r grant wedi bod o gymorth mawr i fi a fy nheulu. Diolch byth, cafodd y gwaith ei gwblhau cyn i'r babi gyrraedd. Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl pe na bai'r grant yma ar gael i mi. Rydyn ni i gyd wedi ymgartrefu erbyn hyn.
Rydw i wedi siarad â ffrindiau a chydweithwyr am y grant ac wedi rhoi gwybodaeth i bobl er mwyn iddyn nhw wneud ymholiadau pellach. Mae'r arian sydd ar gael yn gwneud gwahaniaeth enfawr ac mewn llawer o achosion, bydd yn fonws mawr i unigolion.