Mae Cymdeithasau Tai yn darparu llety am rent is na landlordiaid preifat. Os nad ydych chi'n gallu fforddio prynu'ch tŷ eich hunan neu rentu'n breifat, gall cymdeithas dai helpu.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a'i bartneriaid tai - Cymdeithas Tai Aelwyd, Grŵp Cartrefu Cymunedol Cynon Taf, Habinteg, Hafod, Newydd, Trivallis, Cymdeithas Tai Cwm Rhondda a Chymdeithasau Tai Cymru a'r Gorllewin (Wales & West), yn gweithio mewn partneriaeth i ddyrannu eu heiddo gan ddefnyddio Ceisio Cartref RhCT.
Gallwch chi chwilio a rhoi cynnig ar eiddo ar-lein drwy Ceisio Cartref RhCT.
I wneud cais i ymuno â'r Cynllun Ceisio Cartref RhCT, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais, a fydd yn cael ei hasesu a'i rhoi mewn band yn ddibynnol ar eich amgylchiadau personol ac ariannol. Bydd y rheiny sydd â'r angen mwyaf yn cael blaenoriaeth.
Os nad oes gyda chi fynediad at gyfrifiadur i gofrestru eich ffurflen gais ar-lein, gall aelod o garfan Ceisio Cartref RhCT eich helpu chi. Ffoniwch 01443 425678 a bydd aelod o staff hyfforddedig yn ateb eich galwad ac yn llenwi'r ffurflen gais gyda chi dros y ffôn. Fel arall, gallwch chi ddefnyddio cyfrifiadur yn eich llyfrgell leol (efallai bydd angen i chi drefnu apwyntiad ar adegau prysur).