Mae'r Strategaeth yma'n darparu fframwaith ar gyfer yr holl weithgarwch yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) sydd â'r nod o ddefnyddio cartrefi gwag eto. Mae'n ategu'r strategaeth flaenorol (2022-2025) a chafodd ei chymeradwyo gan y Cabinet ym mis Medi 2026.
Mae nifer fawr o gartrefi gwag yn y Fwrdeistref yma, yn enwedig yng ngogledd y Fwrdeistref ac mae’r strategaeth yma, sy’n benodol i ardal RhCT, yn cydnabod hynny yn ogystal ag ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â'r mater. Mae’r strategaeth hefyd yn dangos ein bod ni'n cydnabod y pwysau parhaus i ddarparu tai fforddiadwy i drigolion yn Rhondda Cynon Taf.
Er y bydd y rhan fwyaf o'r cyflenwad tai newydd yn cael ei ddarparu drwy ddatblygiadau newydd o dai, mae'n bosibl y bydd sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto yn cynnig opsiwn economaidd hyfyw, sydd hefyd yn gallu cyfrannu at gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Ar yr un pryd, bydd y strategaeth yn cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau presennol drwy wella amodau amgylcheddol a chymdeithasol.
I gyflawni hyn, rydyn ni wedi nodi pedwar amcan strategol:
-
- Gwella partneriaethau â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a'r sector preifat a fydd yn helpu i ddefnyddio cartrefi gwag eto.
- Rhoi cyngor, cymorth a chefnogaeth ariannol i berchnogion eiddo gwag er mwyn cynyddu nifer y cartrefi gwag sy'n cael eu defnyddio eto.
- Cyflwyno pwerau gorfodi cymesur ac effeithiol er mwyn gallu defnyddio cartrefi gwag eto.
- Cefnogi adfywio a llesiant cymunedol drwy ddarparu ymyraethau wedi'u targedu mewn perthynas â chartrefi gwag ar gyfer y farchnad dai mewn gwahanol ardaloedd a gwella deilliannau cymunedol.