Oherwydd cyfuniad o brisiau eiddo yn codi, marchnad dai sy'n gynyddol gystadleuol ac incwm lleol cymharol isel, all llawer o bobl leol ddim diwallu eu hanghenion tai bellach drwy'r farchnad dai breifat.
Mae darparu tai fforddiadwy mewn partneriaeth yn nod allweddol i helpu pobl sydd angen tai a chreu cymunedau cynaliadwy, ffyniannus yn Rhondda Cynon Taf ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Beth yw Tai Fforddiadwy?
Tai fforddiadwy yw tai sy'n cael eu darparu ar gyfer eu gwerthu neu'u rhentu am bris sy'n is na'r prisiau ar y farchnad agored a lle mae mecanweithiau diogel yn eu lle i sicrhau eu bod nhw'n hygyrch i'r bobl hynny sy'n methu â fforddio tai'r farchnad, ar feddiannaeth gyntaf ac i feddianwyr dilynol. Serch hynny, gall rhai cynlluniau ddarparu ar gyfer prynu'r berchnogaeth lawn a lle mae hyn yn wir rhaid bod trefniadau cadarn ar waith er mwyn sicrhau ailgylchu derbyniadau cyfalaf i ddarparu tai fforddiadwy newydd.
Felly, mae'r diffiniad yma'n cynnwys tai rhent cymdeithasol (sy'n cael eu darparu gan gymdeithasau tai ar lefelau rhent meincnod) a pherchnogaeth gost isel (h.y. cynlluniau ecwiti 70-30 ar gyfer prynwyr tro cyntaf). Mae tai rhent canolraddol (sy'n cael eu darparu gan gymdeithasau tai am brisiau is na'r farchnad) yn fath arall o dai fforddiadwy, er nad oes unrhyw farchnad ar gyfer y rhain yn Rhondda Cynon Taf oherwydd y bwlch tenau rhwng rhent meincnod a'r Lwfans Tai Lleol.
Dydy tai preifat sydd ar werth neu ar osod ddim yn cael eu hystyried yn dai fforddiadwy oherwydd bod prisiau'r rhain yn cael eu pennu gan y farchnad, a dydy meddiannu’r cartrefi ymaa ddim o dan reolaeth yr awdurdod tai lleol na'r awdurdod cynllunio.
Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2014/15-2019/20
Mae Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol (LHMA) yn cael eu cynnal bob dwy flynedd gan Swyddog Materion Tai Fforddiadwy'r Cyngor i nodi blaenoriaethau tai strategol o fewn yr ardal. Yn yr asesiad mwyaf diweddar, amcangyfrifwyd yn benodol yr angen am dai fforddiadwy yn y Fwrdeistref Sirol. Ar y cyfan, mae angen 185.42 o unedau tai fforddiadwy y flwyddyn, sy'n cynnwys:
- 29.12 o Unedau Cymdeithasol i’w rhentu (gan gymryd i ystyriaeth ardaloedd gyda chyfanswm o 602.64 o unedau'r flwyddyn dros ben, ac ardaloedd â diffyg 631.76 uned y flwyddyn)
- 121.19 o unedau i'w prynu am bris gostyngol
- 35.12 o unedau rhentu canolraddol
Serch hynny, nid targedau cyflawni blynyddol mo'r ffigurau yma, na'r ateb i faterion fforddiadwyedd yn y Fwrdeistref Sirol. Yn hytrach, arwydd o faint y broblem tai fforddiadwy ydyn nhw a meincnod y bydd y Cyngor yn gweithio tuag ato gan ystyried yr hyn y gellir ei gyflawni yn ymarferol. Yn ogystal â hynny, mae'n bwysig pwysleisio bod ffigurau pennawd yn ystumio'r gwahaniaethau mewn ardaloedd is-farchnad a rhwng y mathau o eiddo sydd eu hangen. Felly, dylai mwy o sylw gael ei roi i'r anghenion tai lleol hynny sy'n cael eu nodi yn yr asesiad yma ar sail ardal leol.
Sut mae'r Cyngor yn darparu tai fforddiadwy?
Bydd y Cyngor yn gweithio gyda'i bartneriaid ac yn rhoi blaenoriaeth i ddarparu tai fforddiadwy drwy nifer o fecanweithiau, sy'n cynnwys:
- Grant Tai Cymdeithasol (SHG) - grant cyfalaf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy newydd. Mae'r Grant Tai Cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio hefyd i ddarparu tai â chymorth sydd yn aml yn anodd ei chyflawni drwy unrhyw fecanwaith arall. Mae'r Cyngor yn cydlynu dyrannu'r Grant Tai Cymdeithasol i'n partneriaid cymdeithas tai yn seiliedig ar feini prawf cytûn sy'n ymwneud â'r angen am dai a chyflawniad y cynllun.
- Adran 106 (a106) – mae tai fforddiadwy yn cael eu sicrhau drwy'r system gynllunio (a106) hefyd. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig yn nodi bod gofyn am 10% o ddarpariaeth tai fforddiadwy ar safleoedd sy'n cynnwys 10 uned breswyl neu ragor yn yr Ardal Strategaeth Ogleddol, ac 20% ar safleoedd sy'n cynnwys 5 uned breswyl neu ragor yn ar Ardal Strategaeth Ddeheuol. Dydy'r Grant Tai Cymdeithasol ddim ar gael fel arfer ar gyfer safleoedd a106 yn Rhondda Cynon Taf.
- Adnewyddu Eiddo Gwag - mae gan yr holl gymdeithasau tai yn y Fwrdeistref Sirol strategaethau buddsoddi i ailddechrau defnyddio eiddo gwag hirdymor. Bydd y Cyngor yn helpu i gydlynu a monitro nifer yr unedau gwag hirdymor sy'n cael eu haildefnyddio, ac yn gweithio mewn partneriaeth hefyd i wneud eiddo gwag sector preifat yn addas i'w hailddefnyddio.
- Asiantaeth Gosodiadau Cymdeithasol Cartrefi Hafod - sefydlwyd Asiantaeth Gosodiadau Cartrefi Hafod mewn partneriaeth â'r Cyngor i helpu pobl ar restrau aros tai cymdeithasol i rentu eiddo yn y sector rhentu preifat. Nod Cartrefi Hafod yw cynyddu nifer yr unedau sydd ar gael i'w rhentu a darparu dewisiadau tai ehangach i aelwydydd sy'n aros am dai cymdeithasol.
Mae cyflenwi tai fforddiadwy yn cael ei fonitro gan Garfan Strategaeth Materion a Safonau Tai'r Cyngor, ac yn cael ei adrodd wrth Lywodraeth Cymru yn y ddwy ffurflen flynyddol ac adroddiadau monitro i'r Bartneriaeth Dai Lleol (sy'n ymwneud â Chynllun Gweithredu'r Strategaeth Dai). I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni.
Rhagor o wybodaeth
Mae gwybodaeth fanylach am opsiynau tai fforddiadwy sydd i'w prynu neu’u rhentu yn Rhondda Cynon Taf ar y dudalen Atebion Tai.
Manylion cyswllt
Carfan Materion Strategaeth a Safonau Tai
Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd,
Tŷ Elái,
Dwyrain Dinas Isaf,
Trewiliam,
CF40 1NY
Tel: 01443 425678