Offer AI - beth ydyn ni'n ei olygu?
Mae offer AI yn cynnwys pethau fel rhaglenni creu CV, apiau gwirio gramadeg a chymorth ysgrifennu (e.e. ChatGPT, CoPilot, Gemini). Mae modd i'r rhain eich helpu i strwythuro'ch cais, gwirio sillafu a gwella eglurder.
Oes hawl gyda fi ddefnyddio offer AI?
Oes, mae hawl gyda chi ddefnyddio offer AI i helpu i baratoi eich cais ar gyfer Cynllun Prentisiaeth a Rhaglen i Raddedigion Cyngor RhCT. Serch hynny:
- Rhaid i'ch cais adlewyrchu eich sgiliau, eich profiad a'ch cyflawniadau eich hun.
- Peidiwch â chyflwyno cynnwys sydd wedi'i greu'n gyfan gwbl gan AI heb ei adolygu a rhoi dy stamp dy hun arno gyntaf.
- Byddwch yn onest, eich llais chi rydyn ni eisiau ei glywed, nid llais AI, er gwaetha'r cymorth mae'n gallu ei roi.
Awgrymiadau ar gyfer defnydd cyfrifol o AI
- Gwiriwch gywirdeb: Mae modd i AI wneud camgymeriadau neu gynnwys manylion amherthnasol.
- Ychwanegwch eich personoliaeth: Rydyn ni eisiau clywed eich llais chi.
- Ceisiwch osgoi copïo disgrifiadau swyddi: Addaswch eich cais i ddangos sut mae eich profiad yn cyd-fynd â'r rôl.
- Prawfddarllen: Hyd yn oed ar ôl defnyddio AI, adolygwch eich cais yn ofalus.
Rhestr wirio: Defnydd cyfrifol o AI
- Ydw i wedi gwirio bod yr holl wybodaeth yn gywir ac yn wir?
- Ydy fy nghais yn swnio fel fi, nid templed generig?
- Ydw i wedi ychwanegu enghreifftiau o fy mhrofiad fy hun?
- Ydw i wedi prawfddarllen y fersiwn derfynol cyn ei chyflwyno?
Cwestiynau Cyffredin
1. Ydy hi'n iawn defnyddio ChatGPT neu offer tebyg ar gyfer fy CV neu fy nghais?
Ydy, cyn belled â bod y cynnwys yn adlewyrchu eich profiad a'ch sgiliau eich hun. Peidiwch â chopïo a gludo testun wedi'i greu gan AI heb ei adolygu a rhoi'ch stamp eich hun arno gyntaf.
2. A fydd defnyddio AI yn rhoi mantais i mi?
Nid o reidrwydd. Mae modd i AI helpu gyda strwythur a gramadeg, ond rydyn ni'n rhoi gwerth ar ddilysrwydd ac enghreifftiau go iawn o'ch cyflawniadau.
3. Oes hawl gyda fi ddefnyddio AI ar gyfer profion neu asesiadau ar-lein?
Nac oes. Rhaid i chi sefyll profion a chwblhau asesiadau ar eich pen eich hun a heb gymorth. Mae defnyddio AI mewn asesiadau yn cael ei ystyried yn dwyll a gallai arwain at eich gwahardd o'r cynllun neu'r rhaglen.
4. Sut galla i wneud yn siŵr nad yw fy nghais yn swnio'n generig?
Ychwanegwch enghreifftiau, cyflawniadau a phrofiadau personol sy'n dangos eich cryfderau unigryw.
Ein Hymrwymiad
Rydyn ni'n gwerthfawrogi tegwch a thryloywder. Mae hawl gyda chi ddefnyddio offer AI, ond mae gonestrwydd a dilysrwydd yn hanfodol.