I chwilio am swyddi mewn ysgolion, ewch i'n
Mae rhai rolau eraill nad ydyn nhw'n ymwneud ag addysgu, megis arlwyo a glanhau hefyd ar gael ar dudalen swyddi'r Cyngor.
Chwilio am rai rolau sy'n unigryw i ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
A chithau'n weithiwr, gallwch chi ddisgwyl ymrwymiad gan yr Uwch Garfan Rheoli i ddarparu cyfleoedd cyfartal i bawb, lle mae pob aelod o staff yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyflawni eu llawn botensial. Mae hyn yn cynnwys:
- Uwch Hyrwyddwr Amrywiaeth yr Uwch Garfan Rheoli sy'n hyrwyddo diwylliant cynhwysol mewn modd rhagweithiol.
- Ymagwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu a gwahaniaethu.
- Y cyfle i fod yn aelod o rwydwaith staff sy'n darparu cymorth cyfoedion ac sy’n cyfrannu at newid sefydliadol o ran materion diwylliant.
Darllenwch ragor am ein hymrwymiad yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.