CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am benodi Aelod Annibynnol i'w Bwyllgor Safonau. Mae Pwyllgor Safonau Cyngor y Fwrdeistref Sirol wedi'i sefydlu o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ac is-ddeddfwriaeth. 

Yn rhan o'i gylch gorchwyl, mae'r Pwyllgor Safonau yn trafod materion sy'n ymwneud ag ymddygiad Aelodau Etholedig ac Aelodau Cyfetholedig. Mae'r Pwyllgor yn cynnwys Aelodau Etholedig o'r Cyngor, Aelod o Gyngor Cymuned ac aelodau annibynnol. Caiff Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor eu hethol o'r aelodau annibynnol.

Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu'r meini prawf canlynol ar gyfer penodi aelodau annibynnol:

  • Rhaid iddyn nhw fod yn 'annibynnol', yn unol â diffiniad Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001, rhaid iddyn nhw beidio â bod wedi'u hanghymwyso gan y rheoliadau hynny na chan Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
  • Rhaid iddyn nhw fod â'r hawl i gael eu cynnwys ar gofrestr etholiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
  • Rhaid iddyn nhw fod yn aelod parchus o'r gymuned yn yr ardal a wasanaethir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a meddu ar brofiad perthnasol i waith y Pwyllgor Safonau.

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gwbl annibynnol ar wleidyddiaeth.

Bydd y penodiad am gyfnod o chwe blynedd. Mae gan Aelod Annibynnol hawl i gael lwfans dyddiol ar gyfradd o £210 (£105 am ½ diwrnod) a threuliau am fynychu cyfarfodydd, sy'n daladwy yn unol â Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau y Cyngor.

Mae modd cael pecyn ymgeisio gan Mr. Andy Wilkins, Swyddog Monitro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH. Fel arall, e-bostiwch Cyfarwyddwr.Cyfreithiol@rctcbc.gov.uk i ofyn am becyn, neu ffoniwch 01443 424098 os oes angen rhagor o fanylion arnoch chi.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u llenwi erbyn dydd Gwener 4 Medi 2026.

Tudalennau yn yr Adran Hon