Gwaith Cymdeithasol A Gofal Cymdeithasol
Gall rhoi cymorth i eraill drwy weithio ym maes gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol wneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn i fywydau llawer o bobl
Dyma yrfa werth chweil sy’n rhoi boddhad. Os ydych chi'n dymuno gweithio ym maes gwaith cymdeithasol neu ofal cymdeithasol, mae llawer o gyfleoedd gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf. Mae rhai o'r cyfleoedd hynny i’w gweld yma i chi gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys swyddi Gweithiwr Cymdeithasol yn rhan o Wasanaethau i Blant neu Wasanaethau i Oedolion (bydd angen gradd mewn gwaith cymdeithasol arnoch chi ar gyfer swyddi Gweithiwr Cymdeithasol), neu gyflawni rôl Gofal Cymdeithasol uniongyrchol yn cefnogi pobl trwy ddarparu gofal yn eu cartrefi eu hunain. Os mai chi yw'r person cywir gyda'r gwerthoedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl Gofal Cymdeithasol uniongyrchol, byddwn ni'n rhoi hyfforddiant llawn i chi yn y swydd. Rydyn ni hefyd am wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gennych chi gydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith a’n bod ni'n gofalu am eich lles.
Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am weithio i ni ym meysydd
gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol ac mae modd chwilio am swyddi.
Gwaith Cymdeithasol - Plant
Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am y Gwasanaethau i Blant a gweld ein swyddi gwag.
Gwaith Cymdeithasol - Oedolion
Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd cyffrous i unigolion sy'n frwdfrydig am weithio gydag oedolion dros 18 oed, a allai fod yn dioddef o anabledd corfforol, salwch parhaol, anabledd dysgu neu gyflwr iechyd meddwl. Mae gan ein Carfanau Gofal a Chymorth swyddi llawn amser ar gael ledled Rhondda Cynon Taf.
Bydd y gwaith yn cynnwys camau ymyrryd gweithredol ar achosion cymhleth. Bydd raid gweithio gydag unigolion a theuluoedd yn ystod cyfnod o newid. O ran y gwaith, mae pwyslais ar weithio gydag asiantaethau, a byddwch chi'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr o feysydd proffesiynol eraill, megis iechyd, yr heddlu a thai. Rydyn ni'n dilyn model ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, o dan egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
Mae cyfleoedd i ddatblygu arferion sy'n seiliedig ar ymchwil yn cael eu hannog ac mae gan y garfan hanes hir o gefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol.
Mae cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig mewn gwaith cymdeithasol yn hanfodol a rhaid eich bod chi wedi cofrestru fel 'Gweithiwr Cymdeithasol' gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae hefyd modd darllen ein tudalennau gwe i gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio am swyddi.
Tystlythyrau staff
Rolau Gofal Cymdeithasol yn gweithio gydag Oedolion
Os ydych chi'n mwynhau gofalu am eraill efallai mai dyma'r swydd i chi. Byddwch chi'n gweithio gyda phobl yn eu cartrefi eu hunain, i'w cefnogi gyda'u hanghenion corfforol, emosiynol, diwylliannol a chymdeithasol. Byddwch chi'n derbyn cefnogaeth dda ac yn dysgu yn y swydd, felly mae modd ichi gyflwyno cais os ydych chi wedi gwneud y swydd yma o’r blaen neu os bydd hon yn yrfa newydd i chi.
Mae angen pobl ymroddedig, ddibynadwy sy'n barod i ddysgu sgiliau newydd, ac sydd â'r gallu i weithio ar eu liwt eu hunain. Os ydych chi o'r farn eich bod chi'n ymgeisydd addas, bwriwch olwg ar y swyddi 'Gweithiwr Cymorth yn y Cartref' a 'Cynorthwy-ydd Gofal / Cynnal Cartref’ a 'Byw â Chymorth'.
Byddwn ni'n darparu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) llawn ac yn cynnal asesiadau risg trylwyr yn unol â chanllawiau'r llywodraeth.
Mae hefyd modd darllen ein tudalennau gwe i gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio am swyddi.