Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac yntau'n Awdurdod Perthnasol ar gyfer Ardal Crwner Canol De Cymru, eisiau penodi Crwneriaid Cynorthwyol newydd i gynorthwyo'r Uwch Grwner a'r Crwner Ardal gyda'r ystod lawn o ddyletswyddau'r Crwner er mwyn darparu gwasanaeth crwner o safon ar gyfer pobl Ardal De Cymru.
Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gymryd rhan mewn cwrs hyfforddi Ymsefydlu Crwneriaid Cynorthwyol gorfodol ar 1 a 2 Rhagfyr 2026, a chwrs dilynol ym mis Mehefin 2027 (dyddiad i'w gadarnhau).
Manylion y swydd:
Swydd i'w thalu â ffi: £516 y dydd
Dyddiad Cau: 2 Ebrill 2026 (hanner dydd)
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf eisiau penodi ymgeisydd eithriadol sydd â medrau trefnu, rheoli ac effeithlonrwydd ardderchog, yn ogystal â phrofiad o arfer barn gadarn a chyfathrebu'n effeithiol. Byddwch chi'n gweithio'n agos â'r Uwch Grwner, a'r Crwner Ardal i sicrhau bod gwasanaeth Crwner effeithlon yn cael ei gynnal sy'n rhoi'r rheiny sy'n galaru wrth ei wraidd.
Bydd angen i chi ddangos gwybodaeth a phrofiad o gyfraith Crwneriaid, yn ogystal â chael profiad o gynnal ymchwiliadau a dealltwriaeth o weithdrefnau'r llys. O'ch penodi, bydd angen i chi ddangos medrau cyfathrebu a rhyngbersonol heb eu hail sydd eu hangen ar gyfer sefyllfaoedd sensitif.
Bydd gofyn i chi ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau Crwneriaid fel sydd wedi'u diffinio yn Neddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 a rheolau a rheoliadau cysylltiedig, ac fel sydd hefyd wedi'u disgrifio yn y canllawiau amrywiol o arweiniad gan y Prif Grwner.
Mae'n ofynnol i Grwneriaid Cynorthwyol eistedd am o leiaf 20 diwrnod y flwyddyn. Dyma swyddi i'w talu â ffi er eu bod nhw'n debygol o gynnwys ymrwymiad rheolaidd, sydd i'w gytuno ar y cyd gan y Crwner Cynorthwyol, yr Uwch Grwner a'r awdurdod lleol.
Pwy gaiff gyflwyno cais:
Byddwch chi'n fargyfreithiwr, yn gyfreithiwr, neu'n Gymrawd Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol a byddwch chi wedi bodloni meini prawf penodiadau barnwrol sy'n golygu bod gennych chi 5 mlynedd o brofiad, a hynny wrth feddu ar y cymhwyster hwnnw. Byddwch chi o dan 75 oed ac yn ddarostyngedig i'r amodau penodi a chymhwysedd yn Neddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 (adran 23 ac Atodlen 3).
Telerau statudol y penodiad:
Unwaith i Grwner gael ei benodi, bydd yn dal swydd Farnwrol nes ei fod yn 75 oed (oedran ymddeol gorfodol) ac eithrio ei fod yn dewis ymddiswyddo neu'n cael ei dynnu o'r swydd gan yr Arglwydd Brif Ustus, neu'r Arglwydd Ganghellor cyn hynny.
Sut mae gwneud cais:
Mae modd gofyn am becyn i ymgeiswyr drwy e-bostio recriwtio@rctcbc.gov.uk.
Hoffech chi sgwrs anffurfiol neu drefnu ymweliad? Ffoniwch Louise Roberts, Rheolwr Gwasanaeth y Crwner, ar 01443 281102 neu e-bostio sarah.l.roberts@rctcbc.gov.uk.
Dyddiad cau: 2 Ebrill 2026 am hanner dydd.
Dyddiad y cyfweliad: 9 Mehefin 2026.
Rhoi rhybudd
Mae'r swydd wag yma wedi'i hysbysu gan y Prif Grwner a'r Arglwydd Ganghellor (yn unol â gofynion statud).