Mae gennym ni amrywiaeth o rolau yn ein hadran Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Dyma wybodaeth am ychydig ohonyn nhw, a’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael i’ch helpu chi i symud ymlaen...
Beth mae rôl Byw â Chymorth yn ei olygu?
Mae'r rôl gofal hon yn cynnwys darparu gofal o safon ac ansawdd uchel i'r unigolion sy'n byw yn un o'n cartrefi gofal, gan annog annibyniaeth, a pharchu urddas a phreifatrwydd. Byddwch yn darparu gofal yn unol ag anghenion gofal yr unigolyn o fewn cyfleuster cartref gofal preswyl. Gallai'r rôl hon gynnwys darparu gofal personol, cymorth emosiynol, cymorth gyda gwisgo, hylendid, anghenion dietegol, unrhyw ymyriad meddygol fel rhoi meddyginiaeth, mynychu apwyntiadau ysbyty a gwasanaethau eraill fel optegwyr a deintyddion.
Beth mae rôl mewn Gofal Preswyl yn ei olygu?
Mae'r rôl gofal hon yn cynnwys darparu gofal o safon ac ansawdd uchel i'r unigolion sy'n byw yn un o'n cartrefi gofal, gan annog annibyniaeth, a pharchu urddas a phreifatrwydd. Byddwch yn darparu gofal yn unol ag anghenion gofal yr unigolyn o fewn cyfleuster cartref gofal preswyl. Gallai'r rôl hon gynnwys darparu gofal personol, cymorth emosiynol, cymorth gyda gwisgo, hylendid, anghenion dietegol, unrhyw ymyriad meddygol fel rhoi meddyginiaeth, mynychu apwyntiadau ysbyty a gwasanaethau eraill fel optegwyr a deintyddion.
Mae pob patrwm gwait maes preswyl yn wahanol, a'n nod yw pennu lleoliad a phatrymau gwaith yn seiliedig ar ofynion ein staff a defnyddwyr gwasanaeth. Fodd bynnag, o bryd i'w gilydd efallai y bydd gofyn i chi gyflenwi mewn cartrefi eraill pan fo angen.
Beth mae rôl mewn Gofal Cartref yn ei olygu?
Mae gofal cartref yn golygu gweithio yng nghartrefi unigolion sydd angen gofal a chymorth hirdymor gyda thasgau bob dydd, fel paratoi prydau bwyd, hylendid, defnyddio offer meddygol, a chymorth ariannol. Mae patrymau gwaith yn seiliedig ar argaeledd a lleoliad ein staff ac anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth.
Beth mae rôl mewn Gofal Canolraddol ac Adsefydlu yn ei olygu?
Mae'r rolau hyn yn darparu gofal tymor byrrach hanfodol i'r rhai a allai fod wedi derbyn triniaeth ysbyty yn ddiweddar neu sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol i adennill annibyniaeth lawn. Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio dros dro gydag unigolion, gan ddefnyddio dull galluogi sy'n canolbwyntio ar nodau i helpu pobl i gadw neu adennill eu sgiliau a'u hyder yn eu cartrefi eu hunain fel y gallan nhw ymdopi eto ar ôl cyfnod o salwch. Mae patrymau gwaith yn seiliedig ar argaeledd a lleoliad ein staff ac anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth.
Pa gyfleoedd hyfforddi a dilyniant sydd ar gael?
Byddwch yn derbyn rhaglen sefydlu gynhwysfawr i’w chyflawni cyn dechrau ar eich dyletswyddau. Byddwch yn cael y cyfle i gwblhau sifftiau sefydlu yn y cynlluniau dynodedig cyn gweithio ar eich menter eich hun. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan, a fydd yn datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r gwasanaeth a'r rhan y byddwch yn chwarae ynddo.
Os nad yw wedi'i gwblhau eto, byddwch yn cael eich cefnogi i gwblhau'r cymhwyster cydnabyddedig sy'n bodloni gofynion cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, sef Craidd 2 ar hyn o bryd. Byddwch yn cael eich annog a'ch cefnogi'n llawn trwy gyfleoedd datblygiad personol parhaus i fynychu hyfforddiant/seminarau i ddatblygu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'ch rôl ac rydych chi o’r farn y gallai wella eich llwybr gyrfa yn y dyfodol ym maes Gofal Cymdeithasol.
Gellir sicrhau dilyniant gyrfa trwy gymryd rhan yn ein rhaglenni Camu Ymlaen at Reolaeth, Gwobr Rheolaeth Llinell sy'n eich dysgu am arweinyddiaeth a rheolaeth, a chymwysterau galwedigaethol uwch y gellir eu cwblhau drwy'r Cyngor. Mae llawer o’n staff gofal wedi llwyddo i gael swyddi goruchwylio neu reoli. Rydym wedi ymrwymo i’n hymagwedd ‘tyfu ein hunain’ yn y gweithle.
Mae yna llawer mwy o rolau o fewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion, dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain! Gweld y swyddi eraill sydd ar gael yma.