Ar 31 Gorffennaf 2024, lansiodd Cyngor Rhondda Cynon Taf Gynllun Gwarantu Cyfweliad i Siaradwyr Cymraeg. Y cyntaf o'i fath yng Nghymru, nod y cynllun yw cynyddu nifer y staff sy'n gallu darparu gwasanaethau yn y Gymraeg.
Beth yw'r cynllun?
Yn y bôn, mae'r cynllun yn golygu os ydych chi'n gallu siarad Cymraeg ar lefel 3 neu'n uwch ac yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y swydd wag, y byddwch chi'n sicr o gael cyfweliad ar gyfer y rôl.
Mae'r cynllun yn berthnasol i bob swydd wag sy'n cael ei hysbysebu gan y Cyngor. Does dim rhaid i chi wneud cais am swydd lle mae'r Gymraeg yn faen prawf hanfodol i elwa o'r cynllun. I fod yn rhan o'r cynllun, rhaid i ymgeiswyr roi tic mewn blwch ar ein ffurflen gais a chytuno i ddefnyddio eu sgiliau iaith lle bydd angen os cân nhw eu penodi.
Pwy all elwa o'r cynllun?
Rydyn ni'n chwilio am siaradwyr Cymraeg o bob math - p'un a ydych chi'n defnyddio'r Gymraeg yn hyderus ac yn rheolaidd, yn dysgu'r iaith, neu eisiau magu hyder wrth ddefnyddio'ch Cymraeg, dyma eich annog i fanteisio ar y cynllun!
Efallai'ch bod chi wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol ond dydych chi ddim wedi cael llawer o gyfleoedd i'w defnyddio ers hynny, neu efallai'ch bod yn ei defnyddio o bryd i'w gilydd yn eich bywyd bob dydd. Gallai hyn fod yn gyfle i chi ddefnyddio'r Gymraeg sydd eisoes gyda chi a magu hyder ar hyd y ffordd!
Cymorth gyda'r Gymraeg yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf
Y Cynllun Gwarantu Cyfweliad yw un rhan o'n hymrwymiad ehangach i'r Gymraeg:
Dysgu'r Gymraeg
Rydyn ni'n cefnogi staff i ddatblygu a gwella eu sgiliau Cymraeg drwy gydol eu cyflogaeth gyda'r Cyngor. Mae ein tiwtor Cymraeg mewnol yn darparu gwersi ar gyfer siaradwyr Cymraeg o bob lefel. Mae'r gwersi yn digwydd yn ystod oriau gwaith, a does dim gofyniad i weithio’r amser yn ôl. Maen nhw wedi'u cynllunio i fod yn hyblyg ac i gyd-fynd â'ch anghenion unigol.
Cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich gwaith
Rydyn ni am i'r Gymraeg fod yn rhan naturiol o fywyd gwaith bob dydd y Cyngor. Rydyn ni'n annog staff i ddefnyddio eu Cymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae yna gymorth, adnoddau a thechnoleg ar gael i'ch helpu i ddefnyddio'ch Cymraeg yn hyderus.
Mae yna hefyd ddigon o gyfleoedd i ddathlu a hyrwyddo’r Gymraeg drwy gydol y flwyddyn. Mae ein hymgyrchoedd a'n gweithgareddau Cymraeg yn dathlu diwylliant Cymru, yn annog staff i ddefnyddio'r Gymraeg ac yn helpu i hyrwyddo'r iaith yn y Cyngor a ledled ein cymunedau.