Rhaglen Profiad Gwaith Cyngor Rhondda Cynon Taf

Mae rhaglen profiad gwaith Cyngor Rhondda Cynon Taf yn galluogi pobl i gyflawni a/neu arsylwi ar ystod eang o dasgau neu ddyletswyddau o safbwynt gweithiwr, ond gyda phwyslais ar ddysgu.

Byddwch chi'n datblygu a dysgu sgiliau a phrofiad newydd ym myd gwaith, gan gynnwys:

  • Cydweithio;
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, gan gynnwys defnydd o systemau cyfrifiadurol, e-bost, a'r we;
  • Mynychu cyfarfodydd carfan;
  • Sgiliau cyfathrebu a gofal i gwsmeriaid;
  • Rhwydweithio;
  • Cymryd cyfrifoldeb a rheoli'ch amser a'ch llwyth gwaith.

Caiff unrhyw un wneud cais am leoliad gyda'r Cyngor. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda myfyrwyr Ysgol, Coleg a Phrifysgol, yn ogystal â rhai sydd ddim yn fyfyrwyr, i gefnogi a threfnu profiad gwaith.

Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau am brofiad gwaith gan bob rhan o'r gymuned.

Mae'n bosibl bydd y Cyngor yn cadw’r hawl i wrthod cyfle profiad gwaith mewn maes lle bo angen cymhwyster galwedigaethol fydd yn golygu bod y lleoliad yn anaddas.  Does dim modd i ni sicrhau y cewch chi gynnig lle oherwydd ein bod ni’n derbyn nifer fawr o geisiadau.

Ni allwn ddarparu lleoliadau o fewn Gwasanaethau Plant ac Oedolion oherwydd natur gyfrinachol y gwaith.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Rydyn ni'n anelu at ymateb i bob cais o fewn pythefnos. Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd modd i ni gynnig lleoliad gwaith ichi. Er hyn, byddwn ni'n ymdrechu i gynnig profiad gwaith i gynifer o ymgeiswyr â phosibl.

Os ydych chi'n cael eich derbyn i wneud lleoliad profiad gwaith, bydd llythyr/e-bost yn cael ei anfon atoch chi i gadarnhau hyn. Bydd yn cynnwys gwybodaeth fel:

  • Cyfeiriad a chod post y lleoliad;
  • Oriau gwaith;
  • Dillad/gwisg briodol i'w gwisgo;
  • Ble i fynd ar eich diwrnod cyntaf.

Cwestiynau Cyffredin

Fyddwn i'n cael fy nhalu tra rydw i ar brofiad gwaith?

Na fyddwch. Fyddwch chi ddim yn cael eich talu am mai bwriad y lleoliad profiad gwaith yw rhoi profiad i chi o fyd gwaith a'ch galluogi i gyflawni cynifer o dasgau amrywiol â phosibl o dan oruchwyliaeth staff profiadol.

Am faint fydd fy nghyfnod o brofiad gwaith yn para?

Bydd angen i chi a rheolwr y lleoliad y byddwch yn treulio'ch cyfnod o brofiad gwaith ynddo drafod hyn, ond fel arfer dydy'r cyfnod o brofiad gwaith ddim yn para dros pythefnos.

Bydd cinio yn cael ei ddarparu?

Na fydd. Mae disgwyl i chi ddod â'ch cinio eich hunan. Mae'r cyfleusterau yn ddibynnol ar eich gweithle. Mae ffreutur, microdon a pheiriannau diodydd mewn rhai gweithleoedd.  Mae siopau yn agos at rai gweithleoedd ond bydd angen i chi ddod â phecyn bwyd eich hunan i weithleoedd eraill.

Fydd yswiriant gyda fi yn ystod fy nghyfnod ar brofiad gwaith gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf?

Bydd. Bydd yswiriant gan bob ymgeisydd sydd ar brofiad gwaith. Er hyn, mae cyfrifoldeb arnoch chi i ymddwyn mewn modd diogel a synhwyrol.

Gall Cyngor Rhondda Cynon Taf drefnu profiad gwaith fel rhan o'n tasg gyhoeddus i'ch helpu ennill sgiliau cyflogaeth gwerthfawr. Bydd eich cais yn cael ei delio gyda’r Garfan , Addysg a Hyfforddiant y Cyngor a gellir ei rannu gydag adrannau eraill y Cyngor i ddod o hyd i leoliad profiad gwaith addas. Os hoffech chi ddysgu mwy am sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth, darllenwch y'Hysbysiad Preifatrwydd Profiad Gwaith ac Internship' a ‘thudalennau diogelu data'r Cyngor’, neu cysylltwch work.experience@rctcbc.gov.uk

Tudalennau yn yr Adran Hon