Mae Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu hyfforddiant i weithlu o dros 800 o bobl er mwyn cynnal safonau uchel a bodloni gofynion deddfwriaethol. Yn uchel ei barch, mae'r hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu hefyd ar gael i asiantaethau partner, sefydliadau ac unigolion annibynnol am bris cystadleuol.
Cewch chi ddewis! Rydyn ni'n darparu e-ddysgu, sesiynau wyneb yn wyneb traddodiadol neu becynnau dysgu sy'n gyfuniad o'r ddau.
Mae cadw lle ar gwrs yn syml:
Cam 1 – Nodwch y math o ddysgu a'ch pwnc
Math o Ddysgu 1: E-ddysgu
Mae e-ddysgu yn rhoi cyfle i unigolion ddysgu gartref, gweithio ar gyflymder sy'n dderbyniol iddyn nhw ac ennill pwyntiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).
Pam cadw lle trwy Wasanaethau Arlwyo RhCT?
- Mae pob cwrs ar gael trwy borth e-ddysgu rhyngweithiol ar-lein wedi'i ddarparu gan gwmni Highfield. Mae'r Gwasanaethau Arlwyo yn gweinyddu'r ymgeiswyr ar eich rhan.
- Bydd y Garfan Hyfforddiant yn anfon y trwyddedau e-ddysgu yn uniongyrchol at yr ymgeisydd. Ar ôl darparu enw, bydd angen cyfeiriad e-bost neu rif ffôn er mwyn i ymgeiswyr gael eu manylion mewngofnodi unigryw.
- Canllaw 'Gair i Gall' i gael y gorau o'r cymhwyster.
- Os yw ymgeisydd yn ei chael hi'n anodd neu eisiau eglurhad ynghylch unrhyw ran o'r dysgu/cynnwys, bydd y Garfan Hyfforddiant ar gael i'w gefnogi dros y ffôn neu drwy e-bost/Teams (yn ystod oriau swyddfa).
- Os mai sefydliad ydych chi sy'n caffael trwyddedau ar ran eich gweithwyr, gall y Garfan Hyfforddiant roi adborth ar gynnydd y cymhwyster a faint o amser sy'n cael ei dreulio yn y rhaglen ddysgu. Pan fydd y cymhwyster wedi'i gwblhau, gallan nhw anfon copi o'r e-dystysgrif atoch chi fel bod gyda chi gofnod ohoni. (Nodwch, bydd rheolau GDPR yn berthnasol).
Bydd e-Lyfr y mae modd ei lawrlwytho yn cael ei ddarparu gydag opsiynau e-ddysgu (a dysgu cyfunol) dethol.
Table of training information
Pwnc e-Ddysgu | Amser Astudio (yn fras) | Gwybodaeth Flaenorol / Cynulleidfa Darged | Cost fesul ymgeisydd* |
Diogelwch Bwyd Lefel 1 |
3 awr |
Dim, ond byddai gwybodaeth flaenorol yn ddymunol |
£19.00 |
Diogelwch Bwyd Lefel 2 |
6 awr |
Dim, ond byddai profiad o weithio mewn amgylchedd bwyd yn fanteisiol |
£26.00 |
Diogelwch Bwyd Lefel 3 |
18 awr |
Byddai Tystysgrif Diogelwch Bwyd Lefel 2 yn ddymunol |
£165.00 |
Cyflwyniad i Alergenau |
2 awr |
Ar gyfer y rheiny sy'n trin bwyd, neu sydd â chyfrifoldeb am reoli'r unigolion hynny. Mae'r cwrs yma wedi'i achredu gan Allergy UK. |
£21.50 |
Iechyd a Diogelwch Lefel 1
|
2 awr |
Delfrydol ar gyfer sesiynau cynefino gweithwyr neu ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno parhau ac ennill cymhwyster Iechyd a Diogelwch Lefel 2 |
£22.00 |
Iechyd a Diogelwch Lefel 2 |
3 awr |
Cyflwyniad da i faterion iechyd a diogelwch i unrhyw un sy'n gweithio mewn amgylchedd risg isel i ganolig. |
£28.00 |
Codi a Chario |
30 – 60 munud |
Delfrydol ar gyfer sesiynau cynefino gweithwyr, hyfforddiant gloywi neu unrhyw un a fydd yn ymwneud â chodi a chario yn rhan o'i swydd. |
£20.00 |
Math o Ddysgu 2: Dysgu Traddodiadol Wyneb yn Wyneb
Dysgu mewn grŵp ag eraill mewn lleoliad penodol, neu ar gyfer niferoedd mwy (dros 10), mae'n bosibl bydd modd i ni ddod atoch chi. Byddwn ni'n gweithredu system sy'n dilyn y rheolau ar weithio'n ddiogel oherwydd Covid-19. Bydd raid cyfyngu ar nifer y bobl sy'n gallu cymryd rhan yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth. Bydd gofyn i bawb ddarparu datganiad 'Rhydd rhag symptomau Covid-19' cyn cymryd rhan.
Table of information for training
Pwnc Wyneb yn Wyneb – Diogelwch Bwyd | Amser | Gwybodaeth Flaenorol
| Cost y pen |
Dyfarniad Lefel 1 – Ymwybyddiaeth Diogelwch Bwyd wrth Arlwyo (Fframwaith Cymwysterau Rheoliadol – RQF) |
3.5 awr |
Byddai gwybodaeth flaenorol yn ddymunol
|
£28.00 |
Dyfarniad Lefel 2 – Egwyddorion Diogelwch Bwyd (RQF) |
Diwrnod cyfan |
Dim, ond byddai profiad o weithio mewn amgylchedd bwyd yn fanteisiol |
£54.50 |
Dyfarniad Lefel 3 – Goruchwylio Diogelwch Bwyd wrth Arlwyo (RQF) |
3 diwrnod cyfan |
Byddai Tystysgrif Diogelwch Bwyd Lefel 2 yn ddymunol |
£245.00
|
Dyfarniad Lefel 3 – Rheoli Alergenau Bwyd wrth Arlwyo (RQF) |
Diwrnod cyfan |
Byddai gwybodaeth flaenorol yn ddymunol
|
POA |
Table of training information
Wyneb yn Wyneb - Cymorth Cyntaf | Amser | Gwybodaeth Flaenorol / Cynulleidfa Darged | Cost y pen |
Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
(FAW – Lefel 3)
Opsiwn Dysgu Cyfunol ar gael (gweler isod)
|
3 diwrnod
|
Addas i'r rheiny sy'n gyfrifol am ddarparu Cymorth Cyntaf yn y gwaith.
Yn cwmpasu'r holl Gymorth Cyntaf mewn Argyfwng yn y Gwaith, ynghyd â salwch ac anafiadau o bwys.
|
£149.00 |
Cymorth Cyntaf yn y Gwaith Ailgofrestru
(FAW REQUAL – Lefel 3)
Opsiwn Dysgu Cyfunol ar gael (gweler isod) |
2 ddiwrnod
|
Yn addas ar gyfer y rheiny sydd â thystysgrif FAW gyfredol ac sydd angen hyfforddiant gloywi. Bydd angen cyflwyno'r dystysgrif yn dystiolaeth. |
£98.00 |
Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng yn y Gwaith
(EFAW – Lefel 3)
Dysgu atodol ar-lein ar gael |
1 diwrnod |
Addas i'r rheiny mae angen sgiliau Achub Bywyd sylfaenol yn y gwaith.
Yn ymdrin â rolau a chyfrifoldebau'r sawl sy'n darparu cymorth cyntaf, Adfywio Cardio-pwlmonaidd a Chyfarpar Diffibrilio Allanol Awtomatig (Cynnal Bywyd Sylfaenol), tagu, mân anafiadau. |
£61.00 |
Cymorth Cyntaf Paediatrig
(PFA – Lefel 3)
Opsiwn Dysgu Cyfunol ar gael (gweler isod) |
2 ddiwrnod |
Addas i'r rheiny sy'n gyfrifol am ddarparu Cymorth Cyntaf Paediatrig yn y gwaith.
Yn cwmpasu'r holl Gymorth Cyntaf mewn Argyfwng yn y Gwaith, ynghyd â salwch ac anafiadau o bwys. (0-8 oed) |
£98.00 |
Cymorth Cyntaf Paediatrig mewn Argyfwng
(EPFA – Lefel 3)
Dysgu atodol ar-lein ar gael
|
1 diwrnod |
Addas i'r rheiny sydd angen sgiliau Achub Bywyd sylfaenol ar gyfer plant.
Yn ymdrin â rolau a chyfrifoldebau'r sawl sy'n darparu cymorth cyntaf, Adfywio Cardio-pwlmonaidd a Chyfarpar Diffibrilio Allanol Awtomatig (Cynnal Bywyd Sylfaenol), tagu, gwaedu mawr, mân anafiadau. (0-8 oed)
|
£65.00 |
Cynnal Bywyd Sylfaenol a Defnyddio Cyfarpar Diffibrilio Allanol Awtomatig yn Ddiogel
(BLS & AED – Lefel 2)
|
Hanner diwrnod |
Addas i'r rheiny sydd angen sgiliau Achub Bywyd sylfaenol.
Yn cwmpasu Adfywio Cardio-pwlmonaidd a Chyfarpar Diffibrilio Allanol Awtomatig (Cynnal Bywyd Sylfaenol)
|
£39.00 |
Math o Ddysgu 3: Dysgu cyfunol
Heb unrhyw gost ychwanegol i'r dysgwr, mae'r opsiwn yma'n rhoi cyfle iddyn nhw ymgymryd â rhywfaint o'r dysgu ar-lein pryd bynnag sy'n gyfleus iddyn nhw (cyn cymryd rhan yn y cwrs). Bydd hwylusydd y Cwrs yn gwirio gwybodaeth dysgwyr ar ddiwrnod cynta'r cwrs cyn bwrw ymlaen ag unrhyw wybodaeth ychwanegol / hwyluso asesiadau ymarferol.
Table of training information
Pwnc Dysgu Cyfunol – Cymorth Cyntaf | Opsiwn Cyfunol |
Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
(FAW – Lefel 3)
|
Amnewid 1 diwrnod o'r cwrs 3 diwrnod
wyneb yn wyneb gyda phecyn e-ddysgu
|
Cymorth Cyntaf yn y Gwaith Ailgofrestru
(FAW REQUAL – Lefel 3)
|
Amnewid 1 diwrnod o'r cwrs 2 ddiwrnod
wyneb yn wyneb gyda phecyn e-ddysgu
|
Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle
(EFAW – Lefel 3)
|
Mae modd cwblhau pecyn dysgu rhagarweiniol ar-lein cyn cymryd rhan, ond fydd hyn ddim yn disodli unrhyw amser dysgu wyneb yn wyneb.
Nodwch: Mae modd prynu'r pecyn ar-lein yma ar ei ben ei hun i fod yn rhan o hyfforddiant gloywi blynyddol. Prisiau ar gael ar gais. |
Cymorth Cyntaf Paediatreg
(PFA – Lefel 3)
|
Amnewid 1 diwrnod o'r cwrs 2 ddiwrnod wyneb yn wyneb gyda phecyn e-ddysgu |
Cam 2 – Cysylltwch â ni
Os ydych chi'n dymuno trefnu cwrs neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Gwasanaethau eraill
Mae'r Gwasanaethau Arlwyo hefyd yn darparu Gwasanaethau Ymgynghori Sicrhau Ansawdd. Mae Swyddogion Cymorth ar gael i fonitro safonau bwyd a diogelwch, cynnal archwiliadau hylendid, rhoi cyngor yn ymwneud â hylendid a chynorthwyo â gwaith paratoi dogfennau Dadansoddi Peryglon.
Taliadau
E-Ddysgu / Dysgu Cyfunol – Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn anfon anfoneb* a chyfarwyddiadau talu atoch chi pan rydych chi'n prynu'r drwydded. Does dim modd cael ad-daliad.
Dysgu Wyneb yn Wyneb Traddodiadol – Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn anfon anfoneb* ar ôl y sesiwn/sesiynau. Os does dim modd i chi gymryd rhan yn y cwrs, rydyn ni'n gofyn yn garedig am o leiaf 72 awr o rybudd. Mae'n bosibl y byddwn ni'n codi tâl arnoch chi os ydych chi'n canslo ar ôl y cyfnod yma.
*(Mae'n bosibl y bydd modd i adrannau mewnol Cyngor Rhondda Cynon Taf drosglwyddo arian i dalu am gyrsiau. Nodwch fanylion eich canolfan gost a'ch cod pan rydych chi'n cadw lle.)
Gwasanaethau Arlwyo
Ffôn: 01443 281470