Cwlwm Celf yw win cynllun aelodaeth newydd sbon i Artistiaid ar gyfer RhCT.
Y cyntaf o'i fath yn y DU, mae'r ymrwymiad chwyldroadol a beiddgar yma i artistiaid lleol yn cydnabod potensial unigryw gwasanaethau a chymunedau diwylliannol yn gweithio ar y cyd.
Yn debyg i aelodaeth llyfrgell draddodiadol, bydd y cynllun yma'n helpu i sicrhau bod modd i bawb gael cyfle cyfartal i fanteisio ar adnoddau, cymorth a seilwaith yr awdurdod lleol.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydyn ni wedi mynd ati o ddifrif i ailgydio yn ein perthynas ag artistiaid sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf (RhCT).
Mae hyn wedi cynnwys:
- Rhaglen 'Artist Preswyl'
- 'Hyfforddiant Haf Dwys i Artistiaid', sef cwrs datblygiad proffesiynol parhaus pythefnos o hyd â thâl
- Perfformiadau gwaith sy'n mynd rhagddo a 'Nosweithiau Sbrigiau' yn Theatr y Parc a'r Dâr
- Cynnal proses gomisiynu agored ar gyfer rhaglen 'Potyn Pobi'
- Cyhoeddi cylchlythyr rheolaidd yn tynnu sylw at newyddion a chyfleoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
Buddion:
- Defnyddio man cydweithio pwrpasol i artistiaid yn Llyfrgell Treorci, sef 'COLAB'
- Manteisio ar weithdai Datblygu Artistiaid a rhaglen Dosbarth Meistr â thâl
- Manteisio ar raglen 'Artist Preswyl' RhCT
- Llogi neu gadw lle ar y 'Bws Celf'
- Cerbyd 9 sedd er mwyn cynnal teithiau byr ledled De Cymru
- Cyrchu adroddiadau pwrpasol pecyn cymorth data gwybodaeth a dealltwriaeth leol OCSI (Oxford Consultants for Social Inclusion)
- Mae'r pecyn cymorth yn tynnu ar wybodaeth o 1,667 o setiau data cenedlaethol a 1,168 o setiau data ar gyfer Cymru gan gynnwys setiau data ar boblogaeth, iechyd, cyflogaeth, troseddu, materion tai, addysg, trafnidiaeth a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, ac ati
- Defnyddio gwasanaethau cyfieithu'r Cyngor
- Gan gynnwys cyfieithu ar y pryd yn fyw (cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg a chlustffonau i fynychwyr)
- Mynychu sesiynau Rhwydweithio Artistiaid wythnosol (gan gynnwys boreau coffi) ac achlysuron tymhorol (gan gynnwys Parti Nadolig)
- Manteisio ar gymorth i'ch prosiect gan swyddogion Gwasanaeth y Celfyddydau (yn amodol ar gapasiti)
- Gwahoddiad i gyfarfod cyffredinol blynyddol gyda Charfan Uwch Reolwyr Gwasanaeth y Celfyddydau a Diwylliant a'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Diwylliant.
- Dyma eich cyfle i ddysgu am gynlluniau'r Gwasanaeth, gofyn cwestiynau a gwneud awgrymiadau
- Defnyddio cyfrif Zoom pwrpasol Cwlwm Celf er mwyn trefnu a chynnal cyfarfodydd mawr heb gyfyngiadau
- Gostyngiadau ar docynnau ar gyfer achlysuron dethol Theatrau RhCT
- Cyfle i fod yn rhan o Grŵp Llywio Cwlwm Celf
- Cynghori ar strwythur rhwydweithio artistiaid yn y dyfodol a'i integreiddio â phrosesau ac adnoddau'r Cyngor
- Cerdyn aelodaeth
Faint mae'n ei gostio i chi?
Dim byd. Mae'n rhad ac am ddim. Yn debyg i wasanaethau cyhoeddus eraill, mae'n cael ei ariannu gan gyfuniad o fuddsoddiad uniongyrchol gan y llywodraeth, Treth y Cyngor, a grantiau (gan gynnwys grantiau Cyngor Celfyddydau Cymru)
Mae’n galluogi i ddeall yn well sut mae gweithgarwch diwylliannol wedi'i rannu ledled y sir, a sicrhau bod ein cymorth ddim wedi'i glustnodi ar gyfer ardaloedd neu ddemograffeg benodol.
Drwy gynyddu gwelededd artistiaid a'r cyfraniad hanfodol maen nhw'n ei wneud i gynnal arlwy ddiwylliannol y sir (i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd), rydyn ni'n gobeithio cryfhau'r ddadl dros gyllid a chymorth yn y dyfodol.
Pwy sy'n cael ymuno?
Dydy aelodaeth ddim yn gyfyngedig i artistiaid 'proffesiynol', y rhai sy'n ennill bywoliaeth o'u gwaith, na'r rhai sydd eisoes â phroffil yn y diwydiant.
Yn hytrach, mae'r cynllun yma'n agored i bawb. Gyrfa doreithiog yn ffotograffydd neu ddim ond ffôn clyfar a breuddwyd? Dim problem. Gradd mewn drama ac yn bwriadu dechrau eich cwmni eich hun, neu newydd ymddeol ac yn ystyried camu ar y llwyfan am y tro cyntaf erioed? Does dim ots.
Yr unig beth rydyn ni'n ei ofyn yw eich bod yn disgrifio'ch hunan yn artist a'ch bod yn fodlon cwrdd â ni i drafod beth mae hynny'n ei olygu i chi.
Manylion Ymuno:
Ar ôl i chi wneud cais, bydd swyddog Gwasanaeth y Celfyddydau a Diwylliant y Cyngor yn cysylltu â chi i drefnu sesiwn ymsefydlu ar y cynllun a threfnu lle i chi yn y man 'COLAB'.
am y cynllun, anfonwch e-bost at jesse.briton@rctcbc.gov.uk.