Skip to main content

Parcio – Rhoi gwybod am drosedd

Cewch chi ddirwy barcio gan Gyngor Rhondda Cynon Taf am dorri rheoliadau parcio unrhyw faes parcio'r Cyngor neu unrhyw reoliadau traffig ar y strydoedd.

Mae Grŵp Parcio De Cymru yn cynorthwyo gyda'r gwaith gorfodi drwy ddeilio â thaliadau, heriau a sylwadau a thrwy ymgymryd â'r gwaith o brosesu pob Hysbysiad Cosb Benodedig y mae'r Cyngor yn eu cyflwyno.

Dyma feysydd lle y caiff Rheolau Parcio Sifil eu gorfodi

  • Meysydd parcio oddi ar y stryd y mae'r Cyngor yn eu rheoli ar hyn o bryd
  • Llinellau ac arwyddion rheoli traffig ar y stryd e.e. llinellau melyn dwbl, lleoedd parcio i breswylwyr, clirffyrdd ysgolion (llinellau igam-ogam)
Noder: Heddlu De Cymru sydd ag awdurdodaeth dros faterion megis parcio ar lwybrau troed, rhwystrau ar dramwyfeydd a phob trosedd gysyslltiedig â thraffig sy'n symud.

Rhoi gwybod am drosedd parcio

Defnyddiwch y ffurflen yma i roi gwybod am broblemau parcio anghyfreithlon sy'n codi'n barhaus.

Bydd darparu cynifer o fanylion â phosibl e.e. natur y mater parcio, lleoliad, unrhyw amseroedd/diwrnodau penodol o'r wythnos, yn ein helpu ni i drefnu argaeledd swyddogion.

Nodwch, fydd cyflwyno manylion cerbydau penodol sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon ddim yn arwain at gyflwyno Hysbysiad Tâl Cosb yn syth. Mae'n rhaid i Swyddog Gorfodi Sifil weld bod y cerbyd wedi'i barcio yn anghyfreithlon cyn cyflwyno Hysbysiad Tâl Cosb. Ar ben hynny, fydd ceisiadau o'r fath ddim o reidrwydd yn golygu y bydd swyddogion yn ymweld â'r safle ar yr un diwrnod ag y daeth yr adroddiad i law. Mae gan y Cyngor garfan fechan o Swyddogion Gorfodi Sifil a fydd yn ymateb i faterion parcio, ond oherwydd ehangder yr ardal ddaearyddol, does dim modd iddyn nhw ymweld â'r un ardaloedd bob dydd neu bob wythnos. Serch hynny, bydd nodi'r manylion am unrhyw broblemau sy'n codi'n barhaus yn ein helpu ni i gynllunio amserlen ein swyddogion yn briodol os oes modd gwneud hynny.