Byddwn ni'n cael gwared ar unrhyw gerbyd yn Rhondda Cynon Taf os byddwn ni'n credu ei fod wedi'i adael "heb awdurdod cyfreithiol". Yn ogystal â cherbydau sy'n cael eu gadael ar briffordd, rydyn ni hefyd yn mynd i'r afael â cherbydau sy'n cael eu gadael "ar dir yn yr awyr agored".
Mae modd i chi roi gwybod am gerbyd sydd wedi'i adael ar-lein
Os ystyrir bod y cerbyd yn argyfwng, cysylltwch â ni ar ein rhif ffôn argyfwng 01443 425001 (Allan o oriau swyddfa 01443 425011).
Cerbydau sydd mewn cyflwr gwael
Os byddwn ni'n credu bod cerbyd mewn cyflwr sydd mor wael y mae angen ei ddinistrio, rhaid i ni roi hysbysiad cyfreithiol arno cyn y gallwn ni ei symud. Mae'r hysbysiad yma yn rhoi gwybod i unrhyw berchennog y byddwn ni'n cael gwared ar a sgrapio'r cerbyd os na chaiff ei symud o'i leoliad presennol o fewn 24 awr. Yn y sefyllfa yma does gennym ni ddim dyletswydd i ddod o hyd i berchennog y cerbyd.
Cerbydau sydd mewn cyflwr rhesymol
Os yw'r cerbyd mewn cyflwr rhesymol, rhaid i ni gymryd camau penodol i geisio dod o hyd i berchennog. Os oes modd dod o hyd i berchennog, rhaid i'r person hwn gael amser rhesymol i ymateb i hysbysiad a gyflwynir iddo. Os nad oes modd gweld disg dreth ddilys yn y cerbyd, rydyn ni'n cysylltu â'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (y DVLA) er mwyn rhoi gwybod iddi am hynny ym mhob achos.
Cerbydau sydd mewn lleoliadau anodd eu cyrraedd
Os yw cerbydau wedi'u gadael mewn lleoliadau peryglus neu leoliadau anodd eu cyrraedd, mae modd i ni benderfynu y byddai'n rhy ddrud neu'n rhy beryglus cael gwared arno. Serch hynny, rydyn ni bellach yn gweithio mewn partneriaeth a'r Fyddin er mwyn mynd i'r afael â'r broblem yma. Mae'r Fyddin yn symud ceir o leoliadau anodd fel ymarfer hyfforddi i'w hadran achub tanciau.
Cerbydau sydd wedi'u trethi
Os oes modd gweld disg dreth ddilys yn y cerbyd, does dim modd ei ddinistrio hyd nes bod y ddisg wedi dod i ben.
Pwerau'r Heddlu i ddelio â cherbydau
Mae gan yr Heddlu bwerau i symud cerbydau a chael gwared arnyn nhw, neu i'w gwneud yn ofynnol i berchennog cerbyd neu berson sy'n ei reoli ei symud. Mae modd defnyddio'r pwerau yma os yw cerbyd wedi torri i lawr, os yw wedi'i adael neu os yw wedi'i adael 'heb awdurdod cyfreithiol'.
Cerbydau nad ydyn nhw wedi'u gadael, ond sy'n peri niwsans
Dylid rhoi gwybod i'r Heddlu am gerbydau nad ydyn nhw wedi'u gadael, ond sy'n creu problem.
Cerbydau sy'n rhwystro
Dylid rhoi gwybod i'r Heddlu am gerbydau sy'n rhwystro mynediad neu briffordd.
Sut y gallaf ildio cerbyd nad oes ei eisiau?
Os byddwch chi'n cysylltu â ni, byddwn ni'n trefnu i gasglu cerbyd nad oes ei eisiau arnoch chi bellach. Serch hynny, byddwn ni'n gofyn i chi brofi mai chi yw perchennog cyfreithiol y cerbyd, neu eich bod wedi cael caniatâd y perchennog i gael gwared â'r cerbyd.
Noder bydd cost am y gwasanaeth yma.
Beth y dylwn i ei wneud os byddaf yn dod o hyd i hysbysiad ar fy ngherbyd?
Er ein bod yn gosod hysbysiadau ar gerbydau'n aml, nid ni yn unig sy'n gwneud hynny. Mae'r Heddlu hefyd yn gosod hysbysiadau ar gerbydau, yn enwedig os yw'r cerbyd ar briffordd heb ddisg dreth gyfredol.
Os ydych chi'n credu ein bod wedi gosod hysbysiad ar ein cerbyd, cewch chi gysylltu â ni.
Noder
- Os byddwn ni'n gosod hysbysiad 24 awr ar gerbyd, byddwn ni'n cael gwared arno ymhen 24 awr os na chawn ni ymateb gan ei berchennog / ei geidwad.
- Os yw cerbyd wedi'i adael ar dir, ac rydyn ni'n cyflwyno hysbysiad i feddiannydd y tir hwnnw, rhaid ymateb yn ysgrifenedig. Yn yr achos yma, mae gan y meddiannydd 15 o ddiwrnodau i ymateb. Os na chawn ni ymateb ysgrifenedig i'n hysbysiad, byddwn ni'n mynd i'r tir ac yn cael gwared ar y cerbyd.
Cysylltu â ni
Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd
Gwasanaethau Gofal y Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 844310