“Ledled Cymru, mae dros 245,000 safle mewn perygl o lifogydd gan afonydd, y môr a dŵr wyneb ac mae bron i 400 eiddo mewn perygl o erydu arfordirol. Wrth i’r hinsawdd newid, gallwn ddisgwyl i’r peryglon hyn gynyddu yn sgil llifogydd mwy difrifol a mwy rheolaidd ac wrth i lefelau’r môr godi ac erydu’r arfordir yn gyflymach".
Mae hyn yn golygu bod tua 1 o bob 8 eiddo yng Nghymru mewn perygl gan lifogydd. Ym Rhondda Cynon Taf mae tua 1 o bob 5 eiddo mewn perygl gan lifogydd.
Gall deall eich perygl llifogydd eich helpu chi i fod yn fwy parod ac yn fwy effro i fygythiad llifogydd yn eich ardal.
Dangosir y mathau o lifogydd ac â phwy i gysylltu isod.
Mae llifogydd o brif afon yn digwydd pan na all afonydd a nentydd mwy gynnwys llif y dŵr, gan arwain at orlifo a/neu dorri strwythur amddiffyn rhag llifogydd. Cysylltwch ag Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr achos hwn.
Mae llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin yn cynnwys ffosydd, draeniau, cwlfert a nentydd llai nad ydynt yn cael eu cydnabod fel prif afon. Gall llifogydd ddigwydd pan na all cwrs dŵr gynnwys llif y dŵr, gan arwain at orlifo a/neu dorri strwythur amddiffyn rhag llifogydd. Gall llifogydd hefyd gael ei achosi gan falurion yn cronni gan achosi rhwystrau i seilwaith. Cysylltwch a’r Cyngor yn yr achos hwn.
Mae llifogydd dŵr wyneb neu ‘lifogydd glawog’ yn digwydd pan fo llifogydd sydyn yn ormod i’r ddaear a rhwydweithiau draenio lleol medru amsugno. Gall hy arwain at ddŵr yn llifo ar draws y ddaear ac yn cronni mewn ardaloedd isel. Cysylltwch a’r Cyngor yn yr achos hwn.
Mae llifogydd dŵr daear yn digwydd pan fo dŵr sy’n codi o’r ddaear yn arwain at bridd dirlawn. Mae hyn yn tueddu i ddigwydd ar ôl cyfnodau hir o law. Cysylltwch a’r Cyngor yn yr achos hwn.
Mae llifogydd carthfosydd yn digwydd pan nad yw capasiti system garthffosiaeth yn gallu ymdopi â llif y dŵr neu pan fydd carthffos yn dymchwel neu falurion yn cronni yn y rhwydwaith. Cwmnïau dŵr a charthffosiaeth sy’n gyfrifol am hyn.
Mae llifogydd cronfeydd dŵr yn digwydd pan fo storfeydd dŵr wyneb yn methu ac yn llifo i’r ardal o amgylch. Cysylltwch â perchennog y gronfa dŵr yn yr achos hwn.
Mae llifogydd ffyrdd yn digwydd pan nad yw dŵr glaw yn llifo i ffwrdd drwy’r systemau draenio presennol. Cysylltwch â’r Asiant Cefnffyrdd De Cymru ar gyfer llifogydd o draffyrdd a phrif gefnffyrdd. Cysylltwch â’r Cyngor fel yr Awdurdod Priffyrdd ar gyfer llifogydd o ffyrdd eraill.
Gwiriwch eich Perygl Llifogydd
Mae amrywiaeth o offer ar gael i ddarganfod eich perygl llifogydd. Mae rhai o'r rhain ar gael am ddim ar-lein, tra bydd yn rhaid talu am asesiadau eraill mwy cynhwysfawr.
Bydd yr offer a'r gwasanaethau yma yn eich galluogi i ddeall perygl posibl i'ch eiddo, a bydd asesiad risg llifogydd annibynnol manwl yn amlinellu pa fesurau fyddai'n addas ar gyfer eich eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddiogelu eich eiddo cliciwch yma.
Check your flood risk
Offeryn / Gwasanaeth | Disgrifiad |
Cyfoeth Naturiol Cymru
Map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru
&
Gwiriwch eich gwasanaeth perygl llifogydd yn ôl eich cod post
|
Mae Map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru ar-lein rhad ac am ddim yn dangos eich risg o lifogydd o afonydd, y môr, dŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin a chronfeydd dŵr.
Mae’r map hefyd yn darparu gwybodaeth ychwanegol am eich ardal, megis lleoliad amddiffynfeydd llifogydd, yr ardaloedd sy’n elwa o amddiffynfeydd llifogydd a’r ardaloedd sy'n cael rhybuddion llifogydd am ddim gan CNC.
Mae modd gweld eich perygl llifogydd ar fap yma.
Mae modd i chi hefyd wirio eich risg llifogydd yn ôl cod post yma.
|
Cyfoeth Naturiol Cymru
Rhagolwg perygl llifogydd 5 diwrnod ar gyfer Cymru
|
Mae rhagolwg perygl llifogydd 5 diwrnod ar gyfer Cymru ar gael ar dudalen we CNC yma. Mae'r gwasanaeth yma ar gael am ddim ac mae'n dangos a oes perygl llifogydd uniongyrchol i'ch ardal chi.
Fel arall, ffoniwch y Llinell Rybuddion Llifogydd 0345 988 1188 – gwasanaeth 24 awr.
|
Chwiliad Llifogydd Bwrdd Gwaith Masnachol
|
These are produced by private companies who have access to more detailed flood risk information. They will include the data from free online flood maps but supplement this with information on historical flooding; groundwater flood susceptibility; the position of local watercourses and reservoirs; the local topography and improved information on the local flood defences.
When selecting a search, check that it is provided by a company with good pedigree in environmental data and adequate professional indemnity (PI) cover.
|
Asesiad Risg Llifogydd Annibynnol
|
Mae'n bosibl comisiynu arbenigwr i wneud arolwg perygl llifogydd llawn, gan gynnwys archwiliad safle. Fe'ch cynghorir i sicrhau eich bod chi'n cael asesiad gan syrfëwr siartredig. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael trwy Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).
|
Mae rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o berygl llifogydd (uchel/canolig/isel) a deall eich canlyniadau perygl llifogydd o fap Asesiad Perygl Llifogydd Cymru a’r gwasanaeth Gweld eich risg llifogydd yn ôl côd post ar gael ar wefan CNC.