Skip to main content

Is-ddeddfau Draenio Tir

Rhoddir hysbysiad bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yn bwriadu gwneud cais, ymhen 6 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad hwn i Lywodraeth Cymru, am gadarnhad o is-ddeddfau draenio tir a wnaed gan y Cyngor at ddiben gwella rheolaeth swyddogaethau draenio tir a rheoli perygl llifogydd yn eu hardal. 

Yn ystod cyfnod o 6 wythnos o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn (04/01/2024), bydd copi o’r is-ddeddfau draenio tir yn cael ei gadw yn Llyfrgelloedd a Chanolfannau Hamdden Rhondda Cynon Taf, a bydd yn agored i’r cyhoedd ei archwilio, am ddim, yn ystod oriau agor. Yn ystod yr un cyfnod bydd copïau printiedig o'r is-ddeddfau yn cael eu darparu ar gais (am ddim) i unrhyw berson sy'n gwneud cais i'r Cyngor gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod. Mae copi o’r is-ddeddfau hefyd i’w gweld ar ein tudalen we.

Dylid gwneud unrhyw wrthwynebiad i gadarnhad o’r is-ddeddfau yn ysgrifenedig a’i gyfeirio at yr isod, o fewn chwe wythnos i ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn (rhwng 04/01/2024 a'r 15/02/2024).

Rheoli Perygl Llifogydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,

Tŷ Sardis,

Ffordd Sardis,

Pontypridd,

CF37 1DU

E-bost: frm@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 425001

 

CEFNDIR

O dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, cafodd pwerau a chyfrifoldebau ychwanegol eu rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru i reoli llifogydd o ffynonellau lleol, gan gynnwys dŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin. Yn rhan o'r pwerau newydd yma, cafodd y cyfrifoldeb am roi caniatâd cwrs dŵr cyffredin o dan Adran 23 o Ddeddf Draenio Tir 1991 ei drosglwyddo o Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol ym mis Ebrill 2012.

Ers cymryd drosodd y ddyletswydd ganiatáu yma a swyddogaeth ehangach i reoli perygl llifogydd, mae ymarferwyr wedi nodi bod pwerau o dan y ddeddfwriaeth bresennol yn gyfyngedig ac mae'n bosibl bod rhai gweithgareddau sydd ddim angen caniatâd ar hyn o bryd yn cynyddu'r perygl o lifogydd, yn enwedig mewn ardaloedd mwy adeiledig.

Er mwyn mynd i'r afael â'r mater uchod, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru set o Is-ddeddfau Draenio Tir wedi'u diweddaru i helpu awdurdodau lleol yng Nghymru i reoli swyddogaethau draenio tir a rheoli perygl llifogydd yn well trwy reoleiddio gwell.

Trwy fabwysiadu set safonol o is-ddeddfau draenio tir, bydd modd sicrhau cysondeb ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.

Ein hawgrym ni yw mabwysiadu'r set safonol o Is-ddeddfau Draenio Tir sydd wedi'u cymeradwyo gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru. Dyw rhai is-ddeddfau ddim yn berthnasol i'r Cyngor, megis y rhai sy'n ymwneud ag amddiffynfeydd/allanfeydd llanw; fodd bynnag, mae angen eu mabwysiadu nhw yn rhan o'r set o is-ddeddfau safonol.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau i orfodi Is-ddeddfau Draenio Tir am gyfnod o chwe wythnos, rhwng 21 Tachwedd 2022 a 2 Ionawr 2023. Derbyniwyd cyfanswm o 68 o ymatebion yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus yn gadarnhaol, gyda thua 88% o’r ymatebwyr yn cytuno i weithredu’r Is-ddeddfau Draenio Tir yn RhCT.

I weld yr adroddiad ymgynghori llawn, e-bostiwch: FRM@rctcbc.gov.uk.

Mae'r set safonol o Is-ddeddfau Draenio Tir wedi'i chynnwys yn Atodiad A.